IEUAN TEW
Enw: Ieuan Tew
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Eisteddfod
Awdur: Ray Looker
Yr oedd dau fardd yn dwyn yr enw, sef (1) IEUAN TEW BRYDYDD HEN, fl. c. 1400-40; brodor o Gydweli yn Sir Gaerfyrddin, a (2) IEUAN TEW BRYDYDD IEUANC, brodor o Arwystli yn Sir Drefaldwyn fl. c. 1560-90, disgybl disgyblaidd cerdd dafod eisteddfod Caerwys yn 1568 - Peniarth MS 121 (215), Peniarth MS 132 (61) - dywedir iddo gael ei gladdu yn Llanidloes.
Cadwyd llawer o farddoniaeth y ddau mewn llawysgrifau, ond anodd yn aml yw gwahaniaethu rhwng eiddo'r naill a'r llall. Ymhlith gwaith yr hynaf ceir cywyddau ymryson i Mastr Harri; canodd yr ieuaf gywyddau ymryson i Bedo Hafesb a chymerth ran hefyd gyda'r tri bardd, Siôn Phylip, Wiliam Llŷn, a Hywel Ceiriog, yn yr ymryson gyda Wiliam Cynwal a Huw Llŷn.
Awdur
Ffynonellau
- Reports on Manuscripts in the Welsh Language (Historical Manuscripts Commission 1898â1910)
- Llawysgrif Bodewryd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1
- Llawysgrifau Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1, 2, 5
- Archifau LlGC: Cwrtmawr MS 129B, Cwrtmawr MS 200B, Cwrtmawr MS 206B, Cwrtmawr MS 242B, Cwrtmawr MS 243B, Cwrtmawr MS 244B, Cwrtmawr MS 454B, Cwrtmawr MS 467B
- Llawysgrif Esgair yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (N.L.W.) 43
- Llawysgrif Gwysaney yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 25
- Archifau LlGC: NLW MS 16B, NLW MS 253A, NLW MS 552B, NLW MS 560B, NLW MS 566B, NLW MS 643B, NLW MS 644B, NLW MS 675A, NLW MS 719B, NLW MS 832E, NLW MS 834B, NLW MS 1024D, NLW MS 1246D, NLW MS 1247D, NLW MS 1559B, NLW MS 2026B, NLW MS 2691D, NLW MS 3487E, NLW MS 4710B, NLW MS 5265B, NLW MS 5269B, NLW MS 5272C, NLW MS 5273D, NLW MS 6146B, NLW MS 6496C, NLW MS 6499B, NLW MS 6511B, NLW MS 6681B, NLW MS 10893E, NLW MS 11816B, NLW MSS 13061-13062B, NLW MSS 13063B, NLW MSS 13064D, NLW MS 13070B, NLW MS 13071B, NLW MS 13079B, NLW MS 13167B, NLW MS 13180B
- Llawysgrif Sotheby yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth C. 3
- H. Blackwell, NLW MSS 9251-9277A: A Dictionary of Welsh Biography
- William Owen Pughe, The Cambrian Biography (1803)
- T. R. Roberts, Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908)
- R. Williams, Montgomeryshire Worthies (1894)
- Collections Historical and Archaeological relating to Montgomeryshire, xi, 243
- J. Davies, Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex (1632)
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20733280
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/