Brodor o sir Ddinbych a raddiodd yn ddisgybl disgyblaidd cerdd dafod yn eisteddfod Caerwys, 1568 (Peniarth MS 132 (59)). Ceir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, a hwnnw'n cynnwys cywyddau ysgafn i serch a natur, rhai eraill i Simwnt Thelwal o Blas y Ward, Sion Salbri o Lyweni (marwnad), ac un o fawl i Blas Moelyrch. Ceir hefyd englyn ganddo i'r eisteddfod a enwyd uchod. Cynnwys y llawysgrifau canlynol enghreifftiau o'i farddoniaeth: B.M. Add. MS. 14894, Cardiff MS. 63, Llanstephan MS 118 , NLW MS 3048D , NLW MS 6496C , NLW MS 8330B , Peniarth MS 84 (Llyfr Dafydd Cayo ), Peniarth MS 104 .
Enw Hywel Ceiriog a geir yn rhestr rhai llawysgrifau o raddedigion Caerwys yn 1568 (e.e. Peniarth MS 121 (215), Peniarth MS 144 (268)); ceir hefyd ymryson a fu rhwng Hywel Ceiriog, Wiliam Llŷn, Ieuan Tew, a Sion Phylip, a'r ddau fardd, Wiliam Cynwal a Huw Llŷn (NLW MS 3021F (455), NLW MS 675A (24b)). Nid ydys yn sicr eto ynghylch cysylltiad y ddau enw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.