Ganwyd yn Penrhos gerllaw Tyddyn y Garreg ym mhlwyf Dolgellau, Sir Feirionnydd, ym mis Mehefin 1656 (ym mis Awst yn ôl NLW MS 9270A ). Buasai ei dad farw cyn geni'r mab, a bu'r fam farw ychydig ddyddiau ar ôl ei eni. Pan oedd yn 18 oed ymunodd â'r Crynwyr, dan ddylanwad John ap John; chwe blynedd yn ddiweddarach dechreuodd weinidogaethu gyda'r Crynwyr. Yn 1686 cychwynnodd ef a'i deulu a llu o Gymry eraill ar y daith hir i Pennsylvania. Cyraeddasant Barbadoes fis Mawrth 1687 a Pennsylvania yn yr haf. Ymsefydlodd Pugh yn agos i Gwynedd, Philadelphia County (Montgomery County yn awr). Bu'n amaethu ac yn gweinidogaethu i'w gyd- Gymry. Yn 1706 aeth i Gymru, eithr dychwelodd yn 1708 a pharhau i weinidogaethu. Bu farw 3 Hydref (3 Rhagfyr medd Blackwell) 1718. Gadawodd ar ei ôl lawysgrif ei Annerch ir Cymru . Trefnwyd gan Grynwyr Haverford a Gwynedd i argraffu'r gwaith hwn, yn ôl dymumad yr awdur, a chyhoeddwyd ef yn Philadelphia - 'Argraphedig yn Philadelphia, Ymhensilfania, gan Andrew Bradford, MDCCXXI' - y llyfr Cymraeg cyntaf a argraffwyd yn U.D.A. (Y mae copi ohono yn Ll.G.C.) Ailargraffwyd y gwaith yn Llundain yn 1782 ac 1801. Cafwyd argraffiad Saesneg - ' Translated from the British Language by Rowland Ellis. Revis'd and corrected by David Lloyd ', ac argraffwyd y cyfieithiad hefyd, o dan y teitl A Salutation to the Britains, yn Philadelphia, 'Printed by S. Keimer, for W. Davies, Bookbinder, in Chesnut-Street, 1727.' Cafwyd hefyd argraffiadau o'r cyfieithiad yn Llundain yn ddiweddarach - yn 1732, 1739, a 1793.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.