O Stackpole a mannau eraill yn Sir Benfro.
Daeth GEORGE LORT o Staffordshire i Sir Benfro tua 1567, yn stiward stad Stackpole dan Margaret Stanley; yn ddiweddarach, prynodd y stad. Dilynwyd ef ynddi gan ei fab ROGER LORT (1555? - 1613), a fu'n siryf yn 1607; wedyn daeth HENRY LORT (siryf yn 1619), y dywedir ei fod yn bur ddwfn yn y fusnes ' smyglo ' ar arfordir Penfro. Cafodd Henry dri mab: ROGER (a wnâi ei gartref yn Stackpole), JOHN (a oedd yn byw yn Prickaston neu Prickeston, nepell o eglwys Castell Martin - gweler Fenton, Pembrokeshire, arg. 1903, 223; nid yw heddiw ond tŷ fferm), a SAMPSON, o East Moor gerllaw Maenor Bŷr, a briododd ferch i Syr John Philipps o Gastell Pictwn. Chwaraeodd y tri hyn y ffon ddwybig yn bur ddeheuig yn y Rhyfel Cartrefol. Yn 1642, yr oedd Roger ar gomisiwn (seneddol) milisia'r sir, ond yn yr un flwyddyn cawn ef a Sampson yn aelodau o'r ' Royalist Association,' a Roger yn swyddog milwrol dros y brenin; arwyddodd y ddau sawl datganiad ym mhlaid y brenin yn 1643-4; perswadiodd Roger dref Dinbych-y-pysgod i dderbyn garsiwn frenhinol, ac yr oedd Sampson ymhlith y gwŷr bonheddig a soniai am ymosod ar dref Penfro. Yn 1644, cipiwyd Stackpole gan Rowland Laugharne, ond nid oedd Roger Lort yno - yr oedd wedi mynd i Lundain i wneud ei heddwch â'r Senedd; a serch ei ddirwyo (1645) i dalu £1,000, ni thalodd byth mo'r ddirwy. Yn wir, yn 1645 wele'r tri brawd yn aelodau o 'Association' seneddol gorllewin Cymru. Ond y mae'n eglur nad oedd gan arweinwyr Piwritanaidd Dyfed fawr ffydd ynddynt; ac yn yr un flwyddyn daeth gelyniaeth rhyngddynt a Poyer a Laugharne i'r amlwg. Daeth yr elyniaeth hon yn fater pwysig yn 1647, pan fwriodd Poyer y tri brawd i'r ddalfa; anufudddod Poyer i orchymyn Laugharne i'w rhyddhau fu un o achosion cwymp Poyer wedyn - sut bynnag, fe'u rhyddhawyd, ac ar derfyn y rhyfel maddeuwyd eu hen droseddau gynt yn swyddogol. Ond wrth gwrs, bychan a feddyliai'r Cafaliriaid chwaith ohonynt. Barn wawdus rhyw ŵr yn 1661 (Laws, Little England, 358 = Camb. Register, i, 164) am Roger Lort oedd ' ei fod yn barod i arddel unrhyw egwyddor neu grefydd a ddygai iddo gyfoeth '; am Sampson Lort, ' gên [asyn] y Sampson Ysgrythurol yn unig a oedd ganddo, ond gwnaeth lawer o ddifrod â hi; fe all weddio cyhyd ag y tâl iddo.' Nid annheg yw chwanegu mai Sampson oedd y tebycaf i wir Bengrwn ohonynt. Mae'n debyg mai ef oedd y Sampson Lort a laniodd yn Bermuda yn 1635. Merch iddo (Elizabeth) oedd gwraig Charles Lloyd (yr ail) o Ddolobran. Ar y llaw arall Roger yn unig ohonynt a wnaeth unrhyw osgo o wasanaeth milwrol i'r brenin. Tybir i Sampson yntau ffafrio'r Adferiad; yr oedd wedi marw erbyn 1670, oblegid ' Thomas Lort, gent. ' a oedd yn berchen tŷ â saith aelwyd ym mhlwyf Maenor Bŷr yn 1670 (W. Wales Hist. Records, x, 190).
Dyn a garai esmwythyd, ac a hoffai gyfansoddi epigramau Lladin, oedd Roger Lort. Urddwyd ef yn farwnig yn 1662, a bu farw yn 1664. Dilynwyd ef gan ei fab, Syr JOHN LORT (a fu farw 1673), a hwnnw gan ei fab yntau, Syr GILBERT LORT, a fu farw'n ddibriod yn 1698. Pasiodd y stad i'w chwaer ELIZABETH LORT, a ddaeth yn wraig i Alexander Campbell o Cawdor; felly y daeth arglwyddi Cawdor i Ddyfed.
Bu mwy nag un siryf o hil John Lort o Prickaston. Yr olaf o'r llinell uniongyrchol oedd JOHN LORT, a fu'n siryf yn 1775 ac a oedd wedi marw erbyn 1778. Daeth ei ferch (ELIZABETH) yn wraig i George Phillips o Hwlffordd, a chychwyn teulu LORT PHILLIPS. Ewythr i'r John Lort diwethaf oedd ROGER LORT, a glwyfwyd yn farwol ym mrwydr Fontenoy, 1745 (cofysgrif iddo ef a'i wraig a rhai o'u plant yn Laws, Church Book of S. Mary the Virgin at Tenby, 84), ac a oedd yn briod ag Anne Jenkins, merch i glerigwr o blwyf Llanbadarn-fawr, Ceredigion - y mae sôn am ei meddiannau yno (bu hi farw 1767) yn Morris Letters, ii, 565, ac Add. M.L., tt. 898, 912, 925. Yr hynaf o'u plant oedd MICHAEL LORT, a aned yn Prickaston yn 1725 (yr oedd 'yn 18 oed' pan dderbyniwyd ef i Goleg y Drindod, Caergrawnt, ganol Mehefin 1743), a fu yn ysgol ' Mr. Evans,' Dinbych-y-pysgod, cyn mynd i Ysgol Westminster ac oddi yno i Gaergrawnt, ac a fu farw yn Colchester 5 Tachwedd 1790. Bu Michael Lort yn athro Groeg yn ei brifysgol; yr oedd yn hynafiaethydd, ac yn gyfaill i Gray a Boswell. Ni fedrai Gymraeg, ond arweiniwyd ef gan ei chwilfryded ynghylch barddoniaeth Geltaidd i ymgynghori â Richard Morris o Fôn ac i ohebu â Lewis Morris - gweler Morris Letters, ii, 537, 544, 550, 555, 557, 565, 581; Add. M.L., tt. 466-8. Yr oedd yn ewythr i W. L. Mansell.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.