CAMPBELL, FREDERICK ARCHIBALD VAUGHAN, is-iarll Emlyn (1847-1898), iarll Cawdor (1898-1911)

Enw: Frederick Archibald Vaughan Campbell
Rhiant: Sarah Campbell (née Compton-Cavendish)
Rhiant: John Frederick Vaughan Campbell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: is-iarll Emlyn (1847-1898), iarll Cawdor (1898-1911)
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Glyn Roberts

Ganwyd 13 Chwefror 1847, mab hynaf ail iarll Cawdor, Golden Grove, sir Gaerfyrddin, a'i wraig gyntaf Sarah, merch yr Anrhydeddus Henry Compton-Cavendish. Cafodd ei addysg yn ysgol Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen. Bu'n aelod seneddol (Tori) dros sir Gaerfyrddin 1874-85; ymgeisiodd yn aflwyddiannus am Orllewin Caerfyrddin yn 1885, am Dde Manceinion yn 1892, ac am adran Cricklade yn Wiltshire, 1898.

Yn 1880 dewiswyd ef yn aelod o bwyllgor adrannol y Llywodraeth a oedd i ystyried cyflwr addysg ganolradd ac addysg uwch yng Nghymru — dyma'r ‘Pwyllgor Aberdare’ y dilynwyd ei adroddiad (a gyhoeddwyd ar 18 Awst 1881) gan sefydlu ysgolion canolraddol Cymru (o dan y ‘Welsh Intermediate Education Act,’ 1889), Coleg Prifathrofaol Caerdydd, 1883, a Choleg Prifathrofaol Bangor, 1884. Fe'i dewiswyd ef yn ‘Ecclesiastical Commissioner,’ 1880, yn ‘Honorary Commissioner in Lunacy,’ 1886-1893, a bu'n gadeirydd cwmni rheilffordd y Great Western, 1895-1905.

Daeth yn 3ydd iarll Cawdor pan fu farw ei dad yn 1898. Yn 1905 (Mawrth hyd Tachwedd) yr oedd yn ‘First Lord of the Admiralty’ yn llywodraeth Balfour. Bu'n flaenllaw yn y gwrthwynebiad i gyllideb Lloyd George, 1909, ac yn 1910 bu iddo ran yn y trafodaethau ynglŷn â diwygio Tŷ'r Arglwyddi. Ymhlith ei ddiddordebau yr oedd milisia sir Gaerfyrddin; bu'n bennaeth y llu hwnnw am 10 mlynedd. Yr oedd hefyd yn llywydd y ‘Royal Agricultural Society’ yn 1901. Bu farw o niwmonia ym Mayfair ar yr 8 Chwefror 1911, ac fe'i claddwyd yn Eglwys Stackpole, Sir Benfro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/