LAWS, EDWARD (1837 - 1913), hanesydd sir Benfro

Enw: Edward Laws
Dyddiad geni: 1837
Dyddiad marw: 1913
Priod: Georgina Elizabeth Laws (née Nantes)
Plentyn: Emily Hewlett Edwards (née Laws)
Plentyn: Edward Lucian Laws
Rhiant: Mary Laws (née Mathias)
Rhiant: John Milligen Laws
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd sir Benfro
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Bertie George Charles

mab y llyngesydd John Milligen Laws (ganwyd 1799), Marchfield House, Binfield, Berkshire, a Mary (1815 - 1899), merch Charles Delamotte Mathias (gweler dan ' Mathias '), Lamphey Court a Llangwaran, Sir Benfro. Priododd ei rieni ar 25 Mehefin 1836 a ganwyd ef ar 17 Ebrill 1837 a'i fedyddio yn eglwys Lamphey ar 4 Gorffennaf. Cafodd ei addysg yn Rugby a Choleg Wadham, Rhydychen (ymaelododd 28 Mai 1856). Ei wraig, a fu farw ar 8 Mai 1897, oedd Georgina Elizabeth Laws, merch hynaf y Parch. W. Nantes, Frome Vowchurch, Dorset. Am rai blynyddoedd bu'n swyddog yn y 35 (Royal Sussex) Regiment. Wedi ymsefydlu yn Ninbych-y-pysgod bu'n amlwg ym mywyd cyhoeddus y dref a'r cylch am hanner canrif. Bu'n aelod o gyngor y dref (1897-?), maer y fwrdeisdref (1900), yn ustus heddwch dros Sir Benfro, a chadeirydd ustusiaid Dinbych-y-pysgod am gyfnod maith, ac yn 1899 efe oedd siryf sir Benfro. Ac yntau'n ŵr bonheddig ariannog, treuliodd lawer o'i hamdden dibrin yn astudio hanes ac archaeoleg sir Benfro. Ei brif weithiau yw Little England beyond Wales, 1880, Church Book of St. Mary the Virgin, Tenby, 1907, mewn cydweithrediad â'i ferch fabwysiedig Emily Hewlett Edwards, A Short History of the Civil War as it affected Tenby and its neighbourhood, 1887, a nifer o ysgrifau yn Archæologia Cambrensis, 1882-1906. Gyda chynhorthwy'r Dr. Henry Owen cyn gorffen y gwaith, cynhyrchodd arolwg ar archaeoleg sir Benfro, ' Archaeological Survey of Pembrokeshire,' 1908. Bu farw 25 Gorffennaf 1913 ar ôl damwain mewn cerbyd, a gadawodd un mab, Edward Lucian Laws.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.