Nid ' Mathias ' oedd eu cyfenw gwreiddiol, eithr ' Cole,' ac wedyn ' Young '; ac nid Llwyngwaren chwaith oedd eu hendre, eithr y Clastir ger Trefdraeth yng Nghemais (Fenton, Pembrokeshire (arg. 1903), 293 - ar gam yr esbonia Fenton yr enw fel 'tir glas,' oblegid dengys y recordiau mai 'tir y clas,' tir eglwysig, a olygai. Enw bedydd ar ambell fab o'r teulu oedd ' Mathias ' ar y cychwyn (gweler W. Wales Records, ii, 41-2). Gyda THOMAS MATHIAS, a fu farw ddiwedd 1617 neu ddechrau 1618 (pan brofwyd ei ewyllys), y sefydlogir y cyfenw ' Mathias '; ail wraig iddo ef oedd Ursula, ferch yr hynafiaethydd George Owen o'r Henllys, ond nid oes a fynno'r briodas hon â'r Mathiasiaid diweddarach. Gyda'i fab ef, JOHN MATHIAS, y symudir yr aelwyd o'r Clastir i Lwyngwaren; bu ef ar y ' Parliamentary Committee ' yn ystod y Rhyfel Cartrefol (Mehefin 1644; Laws, Little England, 327); bu farw yn 1681 (W. Wales Hist. Records, ii, 42). Ni fynnai mab hwn, LEWIS MATHIAS (a fu farw yn 1733; ibid.) ddygymod â chwyldro 1688, ac ar ddiwedd Mehefin 1693 bu mewn cynnwrf yn nhref Arberth yn erbyn y brenin newydd; cyhuddwyd ef yn yr un flwyddyn o 'yfed, yn ei dŷ yn Llwyngwaren a hefyd yn Slebech ac Arberth, gan floeddio “ fe ddaw'r Brenin eto'n ôl ”,” - a thrachefn yn 1694; ond erbyn 1696 yr oedd wedi ymdawelu, ac ni symudodd law na thafod yn yr helynt yn 1715 (Francis Jones yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1946-7, 220-1). Mab iddo ef oedd JOHN MATHIAS (1694? - 1774), a chwanegodd Dre-faeog ('Trefayog') ym mhlwyf S. Nicholas, rai milltiroedd i'r gogledd o Lwyngwaren, at ei stad - yn Nhre-faeog y bu farw, ac yn S. Nicholas y claddwyd ef 21 Hydref 1774. Bu ef, ac amryw o'i blant, yn ymhel â Methodistiaeth; bu Howel Harris yn aros yn Llwyngwaren yn 1740, ac y mae gennym lythyr gan Harris ato (Trev. Letters, 295), ac un arall (294) at un o'i ferched - efallai Ann, oblegid enwir rhyw ' Ann Mathias ' yn adroddiad William Richards ar seiadau gogledd sir Benfro yn 1743. Ond atynwyd John Mathias, a rhai o'i blant, gan Forafiaeth hefyd; cynhelid moddion Morafaidd ar ei aelwyd yn Nhrefaeog; yr oedd gweinidog Morafaidd Hwlffordd yn ei angladd; ac yr oedd ei ferched Ann, Elizabeth, a Martha, yn Forafiaid - a'i fab David hefyd.
O'i wraig Margaret Thomas o'r Dyffryn cafodd John Mathias gynifer â 16 o blant - gweler y rhestr lawn, a gafwyd drwy garedigrwydd y diweddar Charles Ronald Mathias o Lantyfai, yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, xxxiv, rhifyn 1. Y mae'r ail ferch (y pedwerydd plentyn), ELIZABETH, yn bwysig yn hanes ei theulu; priododd â William Smalling (yr oeddynt ill dau'n Forafiaid), gŵr a chanddo eiddo yn Jamaica; gyda'r arian a adawsant hwy y prynwyd Llantyfai gan y teulu'n ddiweddarach, meddai Mr. C. R. Mathias - am fwy o'i hanes hi, gweler Cymm., xlv (mynegai). O'r saith mab, nid oes ond tri a eilw am sylw yma, sef y mab hynaf, JOHN MATHIAS (1720 - 1800?), swyddog yn y llynges, siryf yn 1792 - bu farw'n ddibriod; y mab ieuengaf, LEWIS MATHIAS (1740 - 1815), siryf yn 1811 - bu farw heb adael plant; a'r chweched mab (y pedwerydd plentyn ar ddeg), David (isod).
DAVID MATHIAS (1738 - 1812), 'llafurwr' Morafaidd Crefydd;
Ganwyd 27 Mehefin 1738. Y mae'n anodd deall, yn wyneb y ffeithiau a adroddwyd uchod, sut y daeth Laws (Little England, 365) i gredu mai David oedd 'aer' ei dad, ac i John Mathias ei 'ddi-etifeddu' am iddo droi'n Forafiad - yn anos fyth pan gofiwn fod Edward Laws wedi ymbriodi â merch o deulu Mathias. Y mae'n eglur nad oedd fawr ragolwg y byddai 'etifeddiaeth' fras i chweched mab (£40 a adawodd ei dad iddo yn ei ewyllys); ac mewn siop yn Hwlffordd y rhoddwyd David. Yr oedd yn aelod o'r seiat Forafaidd yno yn 1759. Ddiwedd 1761 aeth i'r sefydliad Morafaidd yn Fulneck (gerllaw Leeds), i gadw siop y Brodyr yno, a bu yno hyd ddiwedd 1771 - yn y cyfamser (1768) yr oedd wedi ei dderbyn yn bregethwr Morafaidd. Erbyn haf 1772 yr oedd wedi cychwyn cenhadaeth Forafaidd yn nyffryn Nantlle (gweler dan William Griffith o Ddrws-y-coed, John Morgan o Lanberis, ac Edward Oliver); bu yno hyd ganol 1776. Yn 1776-80 yr oedd yn 'llafurio' (ni ddaeth byth yn weinidog urddedig) yn Devonport, yn 1780-2 yn Kingswood, ac o 1782 hyd 1788 yn cadw siop sefydliad y Brodyr yn Ockbrook (gerllaw Derby). Dychwelodd i Wynedd fis Mai 1788, gan ymsefydlu'r tro hwn yng Nghaernarfon, a bu yno hyd ganol 1792. Digiodd wrth John Morgan o Lanberis, ac ymadawodd yn swta ac ymsefydlu yn Abergwaun, gan gadw siop ar ei gyfrifoldeb ei hunan a rhoi'r gorau i bregethu; yn wir, ymddieithriodd oddi wrth y Brodyr am gyfnod, a bu raid ei 'aildderbyn' i'w plith yn 1804. Bu farw yn Abergwaun, 15 Ionawr 1812, a chladdwyd yno. Yr oedd yn ddyn egnïol ac yn genhadwr selog (prin efallai y mae'n rhaid dweud ei fod yn Gymreigiwr rhugl), ond yn fyrbwyll ac anhydrin dros ben - adroddir ei hanes yn llawn, gyda chyfeiriadau at y ffynonellau, yn Cymm., xlv. Bu'n briod ddwywaith - am ei briodasau a'i 'blant, gweler Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, loc. cit.
Yn herwydd marwolaethau brodyr David Mathias, i'w ail fab ef, CHARLES DELAMOTTE MATHIAS (1777 - 1851), y disgynnodd stadau'r teulu wedi'r cwbl - ef hefyd, â'r arian a adawyd iddo gan ei fodryb Elizabeth (uchod), a brynodd Lantyfai yn 1821 gan Oweniaid Orielton; ac ohono ef y tardd y Mathiasiaid diweddarach, a fu'n flaenllaw ddigon ym mywyd eu sir, yn y lluoedd arfog (un ohonynt oedd y cyrnol Mathias a arweiniodd y ' Gordon Highlanders ' yn y rhuthr ar fryniau Dargai, yng nghwr gogleddol India, yn 1897), ac yn y gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.