MORGAN, JOHN (1743 - 1801), clerigwr

Enw: John Morgan
Dyddiad geni: 1743
Dyddiad marw: 1801
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

O sir Aberteifi. Ysgrifenna'r Parch. G. T. Roberts fod rhestr o offeiriaid esgobaeth Bangor yn 1778 yn dweud bod Morgan, curad Llanberis, yn 38 oed yn y flwyddyn honno - os felly, yn 1740 y ganwyd ef. Hefyd, bod llawysgrif Cwrtmawr 56iiB (yn Ll.G.C.) yn dwyn yr enw ' John Morgan, Gorsvawr, Lledrod'; efallai mai yno, felly, y ganwyd John Morgan

Bu yn ysgol Ystrad Meurig ac a oedd yn gurad Gwnnws a Lledrod am gyfnod a derfynodd ar ddiwedd 1771. Yn 1772 dilynodd ' Ieuan Brydydd Hir ' yng nghuradiaeth Llanberis (ni byddai rheithoriaid Llanrug a Llanberis yn ei gyfnod ef, John Ellis a Peter Bayly Williams, yn gwasnaethu yn Llanberis). Cyflog Morgan oedd £24, ac yr oedd yn byw yn y Tŷ-isa; cadwai ysgol y bu ' Dafydd Ddu Eryri ' yn ddisgybl ynddi yn 1774.

Daeth John Morgan mor enwog fel pregethwr fel y cyrchai pobl i wrando arno o leoedd pell iawn. Pan ddaeth David Mathias, y cenhadwr Morafaidd, i ddyffryn Nantlle, cododd cyfeillgarwch rhyngddo a Morgan, a daeth Morgan yn drwm dan ddylanwad Morafiaeth; gohebai â Mathias pan adawodd hwnnw'r fro; croesawodd ef ar ei ddychweliad (1788) i Gaernarfon; ac y mae'n amlwg iddo (er nad yn swyddogol efallai) dyfu'n Forafiad, oblegid cyfarfyddai'r seiat Forafaidd fisol yn ei dŷ ef bob tri mis. Yn 1792, fodd bynnag, aeth yn ddrwg rhyngddynt, ac ymadawodd Mathias yr eilwaith â Gogledd Cymru. Pan ddaeth y Morafiad Christian Ignatius La Trobe ar daith i Gymru yn 1795, ymwelodd â John Morgan a sylwodd ar ei dlodi dybryd - cafodd gan y Brodyr yn Llundain roi blwydd-dâl o £16 iddo.

Bu farw John Morgan yn 1801; claddwyd ef ar 30 Mawrth, 'yn 58 oed.' Bu'n briod ddwywaith.

Cyhoeddodd ddwy bregeth: Udgorn dydd grâs , etc. (Amwythig, 1773) (pregeth ar ddaeargryn 22 Ebrill 1773) a Y Testamentwr , a gyhoeddwyd yn Nhrefriw gan Dafydd Jones, 1783.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.