Ganwyd yn Henllys, plwyf Nanhyfer, yng ngogledd Sir Benfro, c. 1552, mab hynaf William Owen (c. 1486 - 1574), cyfreithiwr llwyddiannus a brynodd farwniaeth Cemais yn 1543 gan John Tuchet, arglwydd Audley, gan ddyfod yn arglwydd y farwniaeth. Ei fam oedd Elisabeth, merch Syr George Herbert, Abertawe, brawd William, iarll 1af Penfro o linach yr Herbertiaid (yr ail gread). Gorffennodd ei addysg ffurfiol yn Bernard's Inn, lle derbyniwyd ef yn 1573, ond yn fuan wedyn ymsefydlodd yn hen gartref ei deulu yn Henllys, a dyfod yn un o'r ysgwieriaid mwyaf dylanwadol yng ngogledd Sir Benfro. Priododd (1), Elisabeth, merch a chydaeres William Philipps, Pictwn, yn 1571, a bu iddynt 11 o blant. Eu mab hynaf oedd Alban Owen (bu farw 1658), olynydd ei dad fel arglwydd Cemais, a siryf Sir Benfro yn 1620 a 1643; (2), Ancred, merch William Obiled, Caerfyrddin, mam saith o'i blant ordderch a phump o'i blant cyfreithlon. Daeth dau o'u plant ordderch yn bur enwog - George Owen, ' York Herald ' (gweler y D.N.B. arno ef; nid oes a wnelo ei yrfa â Chymru), ac Evan Owen (1599 - 1662), canghellor Tyddewi (1644-62).
Aflonyddwyd llawer ar fywyd George Owen gan yr ymgyfreithio a fu rhyngddo ef a'i elynion, yn enwedig Syr John Perrot a William Warren, Trewern. Gorfu iddo ef a'i fam hefyd ymladd yn y llysoedd dros eu hawliau maenoraidd yn arglwyddiaeth Cemais. Cymerai ran amlwg mewn bywyd cyhoeddus, a bu'n siryf Sir Benfro yn 1587 a 1602. Fel dirprwy is-lyngesydd Penfro a Cheredigion, dirprwy-raglaw Penfro, ac ustus heddwch am nifer o flynyddoedd, bu'n weithgar ynglŷn â'r milisia a cheisiodd berswadio'r awdurdodau i amddiffyn Aberdaugleddau, oherwydd y perygl parhaus oddi wrth yr Ysbaenwyr. Penodwyd ef gan y Goron yn un o'r dirprwywyr a fu'n arolygu eiddo Syr John Perrot adeg ei ddifreinio yn 1592. Bu farw 26 Awst 1613 a chladdwyd ef yn Nanhyfer.
Dylanwadwyd yn drwm ar George Owen gan y diddordeb newydd mewn hanes a hynafiaethau a nodweddai oes Elisabeth yng Nghymru yn ogystal â Lloegr. Yr oedd yn hyddysg yng ngweithiau Humphrey Llwyd, David Powel, a Syr John Price a'u cyfoeswyr yn Lloegr, ac yr oedd hefyd ar delerau cyfeillgar â Lewys Dwnn, Thomas Jones ('Twm Sion Cati'), a William Camden, a hynafiaethwyr ac achyddion eraill y cyfnod; rhoes gymorth i William Camden. Ef oedd canolbwynt cylch bychan o sgrifenwyr yn Sir Benfro, yn cynnwys George Owen Harry, Robert Holland, a George William Griffith, a chafodd nifer o feirdd Cymreig yr oes nawdd a chroeso ganddo yn Henllys. Ei brif waith yw ' The Description of Penbrockshire,' a ymddengys fel pe bai'n seiliedig o ran ffurf ar Survey of Cornwall Richard Carew, 1602. Gorffennwyd y ' Llyfr Cyntaf,' hanes cyffredinol y sir, 18 Mai 1603; darn yn unig o'r ' Ail Lyfr ' (a gyhoeddwyd yn Cylchgrawn Ll.G.C., v), sef hanes manwl y sir fesul plwyf, sydd ar gael, ac y mae'n amheus os gorffennodd Owen ei gynllun uchelgeisiol. Yr oedd eisoes wedi ysgrifennu ' A Dialogue of the present Government of Wales ' yn 1594. Gweithiau eraill o'i eiddo yw ' A Treatise of Lordshipps Marchers in Wales,' ' The Number of the Hundreds Castells, Parish Churches and ffayres … in all the Shiers of Wales, ' 1602, a elwir fel rheol ' The Description of Wales,' darn a elwir ' A Catalogue and Genelogie of the Lordes of the Baronye of Kemes, Lordes of Kemes,' ' Proofes … that the Lordship of Kemes is a Lordshippe Marcher ' (yn ' Baronia de Kemeys ' yn Archæologia Cambrensis, supplement, 1862), ' Pembrock and Kemes ' (a gyhoeddwyd yn rhannol), a nifer o draethodau byrion ar arglwyddiaeth Cemais, 'A Pamphelett containinge the description of Milford havon,' … 1595, a darnau eraill ar yr un pwnc. Y mae copi o'r ' Treatise of Marle,' 1599, yn y ' Vairdre Book ' ymhlith llawysgrifau Bronwydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Casglodd hefyd goflyfr yn dwyn y teitl ' The Taylors Cussion ' (gol. E. M. Prichard, 1906). Dan ei gyfarwyddyd ef y gwnaed y ' Vairdre Book,' sef casgliad cymysg o'i nodiadau hynafiaethol a chofnodion hanesyddol Cemais, a hefyd y ' Register Book of Kemes ' (a gyhoeddwyd yn Archæologia Cambrensis, supplement, 1862). Yr oedd Owen yn achydd a herald medrus a diwyd. Dengys ei weithiau ar achyddiaeth, sydd gan mwyaf heb eu cyhoeddi, olion dylanwad y Coleg Arfau (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1948, 378-82). Lluniodd hefyd fap o sir Benfro, 1602, a gyhoeddwyd gan Camden yn y 6ed argraffiad o'r Britannia, 1607.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.