mab Rhys ab Owen o Henllys, Sir Benfro, a Jane, merch Owen Ellyott o Earwere yn yr un sir; tad George Owen o Henllys. Yr oedd yn gefnder agos i Syr Thomas Elyot. Ar ôl pedair blynedd ar bymtheg o gyfreithio llwyddodd i brofi ei hawl i farwniaeth Cemais yn Sir Benfro. Yr oedd yn aelod o'r Middle Temple, ac yn cyfranogi o'r un ystafelloedd â Syr Anthony Fitzherbert, un o ynadon y 'Common Pleas.' Cyhoeddodd ddau argraffiad o dalfyriad o'r cyfreithiau Saesneg, y rhai a argraffwyd gan Pynson yn 1521 a 1528. Nid yw'n sicr mai ef oedd yn gyfrifol am argraffiad 1499 o'r un gwaith. Nid yw hyn yn amhosibl oblegid dywedir ei fod dros 100 oed pan fu farw, 29 Mawrth 1574, yn iach a hoenus hyd y diwedd. Buasai felly tua 25 mlwydd oed yn 1499. Priododd ag Elizabeth, ferch Syr George Herbert, brawd William, iarll 1af Pembroke.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.