Erthygl a archifwyd

LLWYD (LHUYD), HUMPHREY (c. 1527 - 1568), hynafiaethydd a gwneuthurwr mapiau

Enw: Humphrey Llwyd
Dyddiad geni: c. 1527
Dyddiad marw: 1568
Priod: Barbara Llwyd (née Lumley)
Plentyn: Lumley Llwyd
Plentyn: Jane Llwyd
Plentyn: Humphrey Llwyd
Plentyn: John Llwyd
Plentyn: Henry Llwyd
Plentyn: Splendian Llwyd
Rhiant: Joan Llwyd (née Pigott)
Rhiant: Robert Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd a gwneuthurwr mapiau
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Huw Thomas

Ganwyd Humphrey Llwyd tua 1527 yn Ninbych, unig blentyn Robert Llwyd, Clerc y Gwaith yng Nghastell Dinbych, a Joan (ganwyd 1507), merch Lewis Piggott. Fel aelod o gangen iau teulu Llwyd-Rossendale o Ffocsol, Henllan, Sir Ddinbych, gallai olrhain ei ach i Henry (Harri) Rossendale o Rossendale, Sir Gaerhirfryn, un o ddeiliaid Henry de Lacy, Iarll Lincoln ac Arglwydd Dinbych, a dderbyniodd diroedd yn y sir gan yr Iarll yn 1287 am ei ran yn y goncwest Edwardaidd. Priododd mab Henry, yntau hefyd yn Henry, ag etifeddes ystad Ffocsol, a honnid y gallai Llwyd olrhain ei ach drwyddi hi hyd Einion Efell o Gynllaith.

Ychydig sy'n hysbys am ei fywyd cynnar; dywed Anthony Wood nad yw coleg cyntaf Llwyd yn Rhydychen yn hysbys, ond iddo dderbyn ei radd B.A. yno yn 1547 ac iddo fod yn fyfyriwr cyffredin wedyn yng Ngholeg Brasenose lle y derbyniodd radd M.A. yn 1551. Honna Wood i Llwyd astudio meddygaeth, ond ymddengys fod yr honiad yn seiliedig ar ddau gyfieithiad o destunau meddygol a briodolid iddo. Dangosodd R. Geraint Gruffydd, serch hynny, eu bod yn ôl pob tebyg yn waith Humphrey Lloyd o Dre'r-llai a fu yng ngwasanaeth Arglwydd Stafford, y gwr y cyflwynwyd un o'r testunau iddo. Dilynwyd Wood gan fwyafrif y bywgraffwyr diweddarach.

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau, yn 1553 aeth i wasanaeth Henry Fitzalan, deuddegfed Iarll Arundel, a Changhellor Prifysgol Rhydychen. Yn sgil esgyniad Mari I i'r orsedd yn 1553 roedd grym Arundel ar ei anterth, a chryn gamp fyddai cael lle yng ngwasanaeth un o brif bendefigion y deyrnas. Er bod union natur dyletswyddau Llwyd yn anhysbys, ni chredir bellach iddo fod yn feddyg i'r Iarll fel yr honnodd Wood. Rhestrodd Ieuan M. Williams nifer o ddogfennau o archifau Castell Arundel a mannau eraill a ddengys fod Llwyd yn gweithredu ar ran yr Iarll mewn perthynas ag eiddo yn Llundain, Hampshire a Sussex. Mae'n eglur fod Llwyd yn aelod gwerthfawr o osgordd Arundel oherwydd yn ystod senedd cyntaf Elisabeth yn 1559 fe'i hetholwyd yn aelod dros East Grinstead yn Surrey, un o fwrdeistrefi Dugiaeth Caerhirfryn, y bu Arundel yn Stiward arni.

Yn ogystal â'i weithgareddau cyfreithiol a gwleidyddol ar ran Arundel, ymddengys fod gan Llwyd ryw gyfrifoldeb dros lyfrgell yr Iarll, trwy gynorthwyo i gasglu llyfrau iddo ef ac i'w fab-yng-nghyfraith John, Arglwydd Lumley, gan gynnull llyfrgell sylweddol iddo'i hun yr un pryd. Yn y pen draw prynwyd y llyfrau hyn i gyd gan James I ac maent bellach yn rhan o'r Casgliad Brenhinol yn y Llyfrgell Brydeinig. Mae llofnod Llwyd a/neu Lumley i'w weld mewn dros drigain o gyfrolau yn y casgliad.

Cadarnhawyd cyswllt Llwyd â thylwyth Arundel trwy ei briodas â Barbara Lumley, chwaer John. Mae dyddiad eu priodas yn anhysbys, ond cawsant chwech o blant, pedwar bachgen: Splendian, Henry, John a Humphrey, a dwy ferch: Jane a Lumley.

Erbyn 1563 roedd Llwyd wedi dychwelyd i Ddinbych ac yn byw o fewn muriau'r castell yn ôl Wood. Fe'i rhestrid hefyd yn un o henaduriaid y dref. Yn yr un flwyddyn fe'i hetholwyd yn AS dros Fwrdeistrefi Dinbych, ac yn ystod y senedd hwn y dywedir iddo hyrwyddo'r mesur i ganiatáu cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg. Er nad oes cofnodion seneddol i gadarnhau hyn, tystir iddo mewn molawd gan Gruffudd Hiraethog. Arweiniodd y ddeddf ddilynol at gyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd gan William Salesbury yn 1567. Roedd Salesbury yntau o Sir Ddinbych ac yn wr gradd o Rydychen ac mae'n amlwg bod y ddau'n adnabod ei gilydd yn dda; yn wir roedd cefnder i Llwyd wedi priodi un o'r Salsbrïaid.

Bu cryn ddyfalu ynghylch daliadau crefyddol Llwyd. Ar y naill law roedd yn aelod o osgordd Arundel ac yn frawd-yng-nghyfraith i'r Arglwydd Lumley, y ddau'n gatholigion blaenllaw; soniodd rhai amdano fel 'pabydd cydymffurfiol'. Ar y llaw arall, awgrym gwahanol a roddir gan ei gefnogaeth i'r mesur dros gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Awgrymwyd bod dychwelyd i Ddinbych yn fodd i ymbellhau oddi wrth y cynllwynio yr oedd Lumley â rhan gynyddol ynddo. Mae hefyd yn annhebygol y byddai Catholig hysbys wedi cael sêl bendith y Protestaniad pybyr Robert Dudley, Iarll Caerlyr a Barwn Dinbych, fel aelod seneddol dros Ddinbych.

Beth bynnag oedd rhesymau Llwyd dros ddychwelyd i Ddinbych, cadwodd ei gyswllt â gosgordd Arundel ac aeth gydag ef ar ei daith i'r cyfandir yn 1566-7. Yn ystod y daith hon y cyflwynwyd Llwyd i Abraham Ortelius gan Richard Clough, un arall o Sir Ddinbych. Bu ei berthynas ag Ortelius yn fodd i Llwyd ddod yn adnabyddus y tu hwnt i Gymru fel awdurdod ar hanes, iaith a thoponymeg ei wlad.

Rywbryd ar ôl y daith hon i'r cyfandir, tra yn Llundain yn ystod haf 1568, trawyd Llwyd gan dwymyn arw a waethygodd wedi iddo ddychwelyd i Ddinbych, a bu farw yno ar 21 Awst (er bod Ortelius yn rhoi'r 31ain, dyddiad a dderbyniwyd gan rai awduron eraill). Claddwyd ef yn eglwys Llanfarchell yn Ninbych lle saif cofeb sy'n ei ddisgrifio fel 'A famus worthy wight'.

Roedd gan Llwyd enw mawr fel ysgolhaig yn ystod ei oes ei hun, er na chyhoeddwyd ei weithiau enwocaf tan ar ôl ei farwolaeth. Mae ei weithiau cynharaf ar goll bellach. Disgrifiad mewn gohebiaeth rhwng Wood a Robert Davies yw'r unig wybodaeth am An Almanacke and Kalender, conteynynge, the daye houre, and mynute of the change of the Moone for ever, and the sygne that she is in for these thre yeares, with the natures of the sygnes and Planetes. A chatalog Llyfrgell Lumley 1609 yw'r unig dystiolaeth dros lawysgrif o gyfieithiad Saesneg Llwyd o'r argraffiad Ffrangeg o De Auguriis gan y dyneiddiwr Eidalaidd Agostino Nifo.

Un o'i weithiau pwysicaf, efallai, yw'r hyn a elwir yn Cronica Walliae, cyfieithiad Saesneg o Llanstephan MS 61 gyda deunydd atodol gan Llwyd, a gwblhawyd yn 1559. Goroesodd y gwaith hwn mewn pum llawysgrif, i gyd yn gopïau diweddarach. Hwn oedd sylfaen yr Historie of Cambria gan David Powel a gyhoeddwyd yn 1584 ac a fu'n waith safonol ar hanes Cymru tan yr ugeinfed ganrif. Ni chyhoeddwyd testun gwreiddiol Llwyd tan 2002.

Cadwyd dau destun Cymraeg o waith Llwyd mewn llawysgrifau, achres ei gyfyrder Foulk Lloyd o Ffocsol a gopïwyd gan Gruffudd Hiraethog a thraethawd ar herodraeth yn llaw William Llŷn, a grynhowyd gan Llwyd o weithiau anhysbys yn Ffrangeg ac ieithoedd eraill.

Mae'r gweithiau eraill a briodolir i Llwyd yn hysbys yn eu ffurf gyhoeddedig yn unig, ac rydym yn ddyledus i Abraham Ortelius am eu bodolaeth. Y cyntaf o'r rhain yw llythyr a anfonwyd gan Llwyd at Ortelius ar 5 Ebrill 1568. Adwaenir y llythyr wrth ei eiriau cyntaf 'De Mona Druidum insula' a'i brif bwnc yw tarddiad yr enw Môn a hynafiaethau'r ynys. Ymddengys mai ateb oedd y llythyr i gwestiynau a ofynnwyd gan Ortelius yn ystod eu cyfarfod yn Antwerp yn 1567. Ar ôl marwolaeth Llwyd cyhoeddodd Ortelius y llythyr yn argraffiad cyntaf ei atlas Theatrum Orbis Terrarum (1570).

Anfonwyd y gweithiau eraill at Ortelius gyda llythyr eglurhaol dyddiedig 3 Awst 1568. Yn y llythyr hwn (NLW MS 13187E ) mae Llwyd yn disgrifio'r gweithiau ac yn esbonio bod ei farwolaeth gyfagos wedi ei orfodi i'w hanfon mewn cyflwr anorffenedig. Un yn unig o'r tri gwaith oedd yn destunol: Commentarioli Britannicae descriptionis fragmentum, disgrifiad daearyddol a hanesyddol byr o Brydain, a gyhoeddwyd yng Nghwlen yn 1572 trwy ddylanwad Ortelius. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r gwaith hwn gan Thomas Twyne fel The breviary of Britayne (1573).

Mapiau oedd y ddau waith arall: map o Loegr a Chymru â'r teitl Angliae regni florentissimi nova descriptio, a map o Gymru, Cambriae typus . Cyhoeddwyd y ddau yn y Theatrum yn 1573. Yr olaf yw ei waith enwocaf, efallai, gan mai hwn oedd y map cyhoeddedig cyntaf o Gymru. Er gwaethaf ei ddiffygion parhawyd i gyhoeddi'r map tan 1741 a chyfrannodd at sicrhau ei enw fel un o fawrion y Dadeni yng Nghymru.

Er gwaethaf diffyg cydnabyddiaeth iddo mewn canrifoedd diweddarach, mae'n eglur bod gan ysgolheigion y cyfnod barch mawr at Llwyd yn ystod ei fywyd ac yn fuan wedyn. Mewn cerdd fawl a luniwyd gan Gruffudd Hiraethog yn 1563-4 fe'i molir am ei feistrolaeth ar y celfyddydau breiniol, yn enwedig astronomeg a mathemateg. Cyflwynodd William Salesbury ail argraffiad ei gasgliad o ddiarhebion Cymraeg i Llwyd gan ei gyfarch fel hyn: 'Tithau, Master Humffre Lloyd, yr hwn a ddleyt y blaen ar bawb o ran cwbledd a theilyngdod pob rhyw oreuddysg a boneddigeiddrwydd anianol'. Mewn llythyr yn 1566 soniodd Salesbury amdano fel 'the most famous antiquarius of all our country'.

Yn y blynyddoedd ar ôl ei farwolaeth cynyddodd ei fri ymhellach; galwodd William Camden ef yn 'learned Briton' a chyfansoddwyd marwnadau iddo gan ddau o ddisgyblion barddol Gruffudd Hiraethog, Lewis ab Edward a Wiliam Cynwal. Mae bywgraffiad Wood yn ei ddisgrifio fel 'a person of great eloquence, an excellent rhetorician, a sound philosopher, and a most noted antiquary, and a person of great skill and knowledge in British affairs.'

Efallai mai ei gefnogwr mwyaf oedd Ortelius, a wnaeth ymdrech eithriadol, fe ymddengys, i gadw'r cof yn fyw am rywun na fu iddo gwrdd ag ef fyw nag unwaith neu ddwy. De Mona Llwyd yw'r unig achos yn y Theatrum lle mae Ortelius yn cyhoeddi llythyr oddi wrth un o'i amryw ohebwyr yn hytrach na defnyddio'r wybodaeth i greu testun disgrifiadol ar gefn y mapiau. Ynghyd â'i waith yn hyrwyddo cyhoeddi'r Fragmentum dengys hyn yn eglur faint oedd ei edmygedd at Llwyd.

Mae cyfraniad Llwyd i'r astudiaeth o hynafiaethau Cymru yn ddiymwad, ond eto mae ei ddylanwad yn ehangach o lawer na'r byd academaidd. Trwy lunio ei fap o Gymru fel dyhead diwylliannol gan gynnwys yr holl diriogaeth ar lan orllewinol afon Hafren yn hytrach na darluniad daearyddol syml o'r tair sir ar ddeg fel yr oeddent yn ei gyfnod ef, cyfrannodd Llwyd i'r cysyniad o Gymru fel cenedl ac felly cynorthwyodd i greu'r wlad fel y mae heddiw.

Ac estynnodd ei gyraeddiadau ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru yn ogystal; trwy hyrwyddo'r syniad o eglwys annibynnol gynnar ym Mhrydain cyfrannodd at achos y diwygiad Protestannaidd, ac felly hefyd bu ei waith yn lledaenu'r chwedl am y Tywysog Madog yn darganfod America yn fodd i annog gwladychu Prydeinig yng Ngogledd America a'r gystadleuaeth â gwledydd Ewropeaidd eraill am diroedd newydd. At hyn i gyd, Llwyd biau'r clod bellach am ddyfeisio'r term 'British Empire', ac felly mae ei ddylanwad i'w weld ar lwyfan gwirioneddol fyd-eang.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-01-17

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

LLWYD (LHUYD), HUMPHREY (1527 - 1568), meddyg a hynafiaethydd

Enw: Humphrey Llwyd
Dyddiad geni: 1527
Dyddiad marw: 1568
Priod: Barbara Llwyd (née Lumley)
Plentyn: Lumley Llwyd
Plentyn: Jane Llwyd
Plentyn: Humphrey Llwyd
Plentyn: John Llwyd
Plentyn: Henry Llwyd
Plentyn: Splendian Llwyd
Rhiant: Joan Llwyd (née Pigott)
Rhiant: Robert Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Meddygaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Frederick John North

Ganwyd 1527 yn Ninbych , mab Robert Llwyd (neu Lloyd) a Joan, merch Lewis Pigott. Cafodd ei addysg yn Rhydychen; B.A. 1547, M.A. 1551. Bu'n dysgu ffisigwriaeth a bu'n feddyg preifat i arglwydd Arundel, canghellor Prifysgol Rhydychen, eithr dychwelodd i Ddinbych yn 1563. Er ei fod yn dilyn ei alwedigaeth fel meddyg yr oedd i Lwyd ddiddordeb mewn cerddoriaeth a'r gwyddorau; galwodd Anthony à Wood ef yn ' person of great eloquence, an excellent rhetorician, a sound philosopher, and a most noted antiquary.' Priododd Barbara, chwaer ac aeres John, yr arglwydd Lumley olaf, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Gwerthwyd i'r brenin Iago I lyfrau y bu Llwyd yn eu casglu i'r arglwydd Lumley; y maent yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Arwyddair Llwyd, yn ôl darlun 'mezzotint' ohono a wnaethpwyd gan J. Faber (1717), oedd ' Hwy pery klod na golyd.' Ymysg gweithiau cyhoeddedig Llwyd y mae: An Almanack and Kalender containing the Day, Hour, and Minute of the Change of the Moon for ever; De Mona Druidium Insulâ, llythyr, dyddiedig 5 Ebrill 1568, wedi ei gyfeirio at Abraham Ortelius, cyhoeddwr, Antwerp, ac wedi ei gyhoeddi mewn argraffiadau o atlas y cyhoeddwr, sef Theatrum Orbis Terrarum (yn Lladin, 1603; yn Saesneg, 1606); Commentarioli Descriptionis Britannicae Fragmentum (Cologne, 1572), a gyfieithwyd yn Saesneg gan Thomas Twyne o dan y teitl The Breuiary of Britayne, 1573; cyfieithiad Saesneg o'r hanes yr arferid ei briodoli i Caradog o Lancarfan a fersiwn wedi ei helaethu o lyfryn gan Syr John Price, Aberhonddu, The Description of Cambria, a ddaeth yn sylfaen The Historie of Cambria David Powel, 1584; The Treasury of Health, a gyhoeddwyd yn 1585 ar ôl marw Llwyd; cyfieithiad o Thesaurus Pauperum Petri Hispani, gyda chyfraniad gan Llwyd, The causes and signs of every Disease, with Aphorisms of Hippocrates.

Trwy wr arall o Ddinbych, sef Syr Richard Clough, a fu'n byw am gyfnod yn Antwerp, y daeth Llwyd i gyswllt ag Ortelius. Mewn canlyniad i hyn paratodd Llwyd fap (llawysgrif) o Gymru - ' Cambriae Typus ' - a map o Loegr a Chymru; ymddangosodd y ddau am y tro cyntaf yn 1573, mewn atodiad i'r Theatrum a gyhoeddodd Ortelius yn 1570 i gychwyn. Mewn llythyr a anfonodd gyda'r map eglurodd Llwyd fod ei fap o Gymru yn rhoddi hen enwau afonydd, trefi, pobl, a lleoedd yn ogystal â'r enwau Saesneg cyfoes, a bod map Lloegr a Chymru yn cynnwys yr hen enwau a roddid gan Ptolemaeus, Plinius, ac eraill. Yr oedd yr awdur, felly, yn golygu i'r mapiau fod yn ddogfennau hanesyddol a daearyddol. Cwpláwyd hwynt ychydig fisoedd cyn marw Llwyd, a hwy oedd y mapiau cyntaf o'r gwledydd arbennig hyn a argraffwyd ar wahân; parhawyd i adargraffu'r map o Gymru hyd 1741. Traethir ar y gwahanol broblemau ynglyn â pharatoi'r mapiau gan F. J. North yn Humphrey Lhuyd's maps of England and Wales (a gyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1937). Bu Llwyd farw 31 Awst 1568 yn Ninbych, ac yno, yn yr Eglwys Wen, y claddwyd ef.

Awdur

  • Frederick John North, (1889 - 1968)

    Ffynonellau

  • Oxford Dictionary of National Biography
  • Anthony Wood, Athenae Oxonienses ( 1813–20 ), i, 382-4
  • Philip Yorke, The Royal Tribes of Wales (arg. 1887), 104-6

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.