NORTH, FREDERICK JOHN (1889 - 1968), daearegwr, addysgydd, hanesydd gwyddoniaeth a churadur amgueddfa

Enw: Frederick John North
Dyddiad geni: 1889
Dyddiad marw: 1968
Priod: Ellen M. North (née Pierce)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearegwr, addysgydd, hanesydd gwyddoniaeth a churadur amgueddfa
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Douglas Anthony Bassett

Ganwyd yn Llundain yn 1889. Yr oedd ei fam yn Gymraes. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed, a chafodd ei hyfforddiant mewn daeareg mewn ysgolion nos tra'n gweithio mewn ffatri gemegau ac fel cynorthwywr mewn labordy (arddangoswr wedyn) yng Ngholeg y Brenin, Prifysgol Llundain. Cymerodd radd allanol, gydag anrhydedd dosbarth I, yn y brifysgol honno cyn ymuno â staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru, lle y bu'n gwasanaethu am 42 flynedd, i ddechrau fel ceidwad cynorthwyol adran daeareg, ac o 1919 i 1959 fel curadur yr adran; o 1959 i 1960 ef oedd curadur mygedol adran newydd diwydiant. Yr oedd ei ddiddordeb mewn daeareg a'r gwyddorau cysylltiedig yn eang fel y gwelir mewn tua 200 o erthyglau a 12 llyfr o'i waith. Rhagorai mewn ysgrifennu cynulliadau megis yn The slates of Wales (1925); Coal, and the coalfields in Wales (1926); The evolution of the Bristol Channel with special reference to the coast of south Wales (1929); Limestones, their origins, distribution, and uses (1930); Studies in the origin of the scenery of Wales, I - The river scenery at the head of the vale of Neath (1930); a chyda Bruce Campbell a Richenda Scott, Snowdonia: the National Park of Wales (1948).

Rhoes sylw arbennig i fapiau, ac y mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys Geological maps: their history and development, with special reference to Wales (1928); The map of Wales (before 1600 AD) (1935); a Humphrey Lhuyd's maps of England and Wales (1937), sy'n parhau i fod yn fonograff awdurdodol ar y testun.

Yr oedd yn un o haneswyr daeareg mwyaf gweithgar ei gyfnod. Y mae pob un o'i lyfrau cynulliadol yn cynnwys cyfoeth o ddefnydd hanesyddol. Ysgrifennodd hefyd fonograffau ar nifer o ddaearegwyr arolesol y 19eg ganrif : W. D. Conybeare, y Deon William Buckland, Charles Lyell, ac yn arbennig H. T. de la Beche, sefydlydd y Geological Survey of Great Britain, yr Amgueddfa Daeareg Ymarferol, a'r Royal School of Mines. Cyfrannodd lawer i'r Bywgraffiadur Cadwodd ddiddordeb byw yn hanes diwydiant yng Nghymru, yn arbennig y diwydiannau cloddio, ac yn ei hanfod ef oedd sefydlydd yr adran ddiwydiant a sefydlwyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn 1958.

Yr oedd bob amser yn ymddiddori yng nghysylltiadau daeareg â phynciau eraill, fel y gwelir yn The stones of Llandaff cathedral (1958), Sunken cities, some legends of the coasts and lakes of Wales (1957), a Mining for metals in Wales (1962). Yr oedd yn guradur hyfedr a adeiladodd yr adran ddaeareg yn yr Amgueddfa ac a ysgrifennodd lawer ar waith curadur amgueddfa, yn cynnwys arweinlyfr safonol, Geology in museums (1939). Yr oedd yn gefnogwr brwd i alwedigaeth amgueddfa, a bu am flynyddoedd yn aelod o gyngor Cymdeithas yr Amgueddfeydd, cynllunydd ei diploma gyntaf, ac aelod o'r cyd-bwyllgor ag Ymddiriedaeth Carnegie yn y Deyrnas Gyfunol. Yr oedd hefyd yn aelod o'r corff cenedlaethol cydweithredol dros UNESCO. Uwchlaw'r cyfan yr oedd yn addysgydd selog a chenhadwr dros ei bwnc, ac yn ddarlithydd, adolygydd a chofnodydd diflino. Gweithredai'n gyson fel daearegwr ymgynghorol i gyrff cyhoeddus ar gynlluniau cadwraeth dŵr ac anturiaethau chwarelyddol. Cydnabuwyd ei gyfraniadau drwy iddo gael ei wneud yn llywydd (ac enillydd medal aur) Sefydliad Peirianwyr De Cymru, cymrawd anrhydeddus y Sefydliad Chwareli, ac aelod o bwyllgor y Weinyddiaeth Mwynfeydd ar y diwydiant llechi. Cafodd radd D.Sc. gan Brifysgol Llundain yn 1920 am waith ymchwil ar braciopodau ffosil, O.B.E. yn 1949 'am wasanaeth i wyddoniaeth yng Nghymru ', a D.Sc. Prifysgol Cymru er anrhydedd yn yr un flwyddyn pryd y dywedwyd: ' iddo ef, o raid, tŷ dehonglwr yw amgueddfa '.

Priododd Ellen M. Pierce, Ticehurst, ym mis Mai 1915. Bu farw 23 Gorffennaf 1968 yn 19 Chargot Road, Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.