Mab ieuengaf Richard Clough, menygwr, Dinbych.
Ceir manylion gweddol lawn am yrfa Richard Clough yn y D.N.B.; yma pwysleisir y cysylltiadau â Chymru yn unig. Aeth yn fachgen i ganu yng nghôr yr eglwys gadeiriol yng Nghaer, ac oddi yno i Lundain; yr oedd eto'n ieuanc pan aeth ar bererindod i Balesteina a chael ei greu yn ' Knight of the Holy Sepulchre ' - dyna sy'n cyfrif am y 'Syr' a geir o flaen ei enw weithiau. Aeth i wasanaeth Syr Thomas Gresham yn Llundain; yn 1552 fe'i ceir wedi ymsefydlu yn Antwerp fel cynrychiolydd tramor i Gresham. Ysgrifennai'n fynych at ei feistr ac at William Phayre (y mae'r llythyrau gwreiddiol yn y Public Record Office, Llundain; gweler e.e. Cal. S.P. For., 1566-8); Clough a awgrymodd i Gresham y priodoldeb o sefydlu ' Exchange ' yn Llundain at wasanaeth marsiandwyr, ar batrwm y ' Bourse ' yn Antwerp. Ym mis Chwefror 1563-4 fe'i ceir yn ceisio trwy Cecil (Arglwydd Burghley) les ar diroedd y Goron yng Nghymru a Lloegr, a'r flwyddyn ddilynol caniatâwyd ei gais - yn siroedd Caernarfon, Fflint, Nottingham, a Buckingham yr oedd y tiroedd. Dychwelodd i Gymru ym mis Ebrill 1567 a phriodi Catherin o'r Berain, yn ail ŵr iddi hi. (Buasai yntau'n briod cyn hynny - â Catherine Muldert, Antwerp; mab iddynt oedd Richard Clough, cyndad y Cloughiaid y ceir erthygl arnynt; gweler hefyd J. E. Griffith, Pedigrees, 329; am hanes tair priodas Catherin o'r Berain gweler yr erthygl ar y wraig honno.) O'r briodas â Catherin o'r Berain bu dwy ferch, ac ohonynt hwy y disgynnodd Hester Lynch Salusbury a Syr Robert Salusbury (bu farw 1818), barwnig Cotton Hall, sir Ddinbych, a Llanwern, sir Fynwy. Tuag adeg ei briodas dechreuodd Clough adeiladu dau dŷ - Bachygraig a Plas Clough, y ddau heb fod ymhell o dref Ddinbych; ymddengys fod ganddo dŷ yn y dref hefyd. Ym mis Mai yr oedd yn ôl yn Antwerp, a'i wraig gydag ef; ychydig yn ddiweddarach buont yn Sbaen ac yn Hamburg. Bu Clough farw yn Hamburg rywbryd rhwng 11 Mawrth a 19 Gorffennaf 1570; claddwyd ef yn y dref honno, eithr dygwyd ei galon yn ôl i Gymru i'w chladdu yn yr Eglwys Wen, Dinbych. Arfaethai Clough wneuthur llawer o bethau er lles ei wlad enedigol; e.e. amcanai ddyfnhau gwely afon Clwyd er mwyn cael llongau bychain i ddyfod cyn belled â Rhuddlan. Yr oedd yn adnabod yr Is-Ellmynnwr Abraham Ortelius, ysgolhaig a mapiwr enwog, ac efe a barodd ddyfod ag Ortelius a Humphrey Lhuyd, Dinbych, i gysylltiad â'i gilydd. Tybir mai tua 40 oed ydoedd pan fu farw. Canwyd marwnadau iddo gan Siôn Tudur, Simwnt Fychan, a Wiliam Cynwal; heblaw'r farwnad canodd Cynwal gywyddau iddo ef (a'i wraig Catherin) gyda'r teitlau hyn - ' Kowydd i yrru y gwalch i annerch mr Ric. Klwch a meistres Catrin penn oeddynt yn Anwarp ' a ' Kowydd i yrru y llong i nol mr Ric Klwch a meistres Katrin adref o ddengmark.' Mewn un cywydd marwnad geilw Cynwal ef 'marchog o vedd Krist.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.