CATRIN (KATHERYN) o'r BERAIN (1534/5 - 1591), ‘Mam Cymru’

Enw: Catrin (katheryn) O'r Berain
Ffugenw: Mam Cymru
Dyddiad geni: 1534/5
Dyddiad marw: 1591
Priod: Edward Thelwall
Priod: Maurice Wynn
Priod: Richard Clough
Priod: John Salusbury
Plentyn: Jane Thelwall
Plentyn: Mary Wynn (née Clough)
Plentyn: Anne Salusbury (née Clough)
Plentyn: Edward Wynn
Plentyn: John Salusbury
Plentyn: Thomas Salusbury
Rhiant: Jane ferch Robert
Rhiant: Tudur ap Robert Fychan
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd Catrin yn 1534-5, yn ferch Tudur ap Robert Fychan o'r Berain, plwyf Llanyfydd, sir Ddinbych, o'i wraig Jane, merch Syr Roland Velville (bu farw 1527), mab gordderch Harri VII, a'i gwnaeth yn gwnstabl castell Biwmares, ac a roes Benmynydd, Môn, iddo. Daeth Penmynydd a Berain yn eiddo i Catrin maes o law.

Bu Catrin yn briod bedair gwaith, ac y mae'n bwysig croniclo ei phriodasau a'i disgynyddion.

(1) Ei gŵr cyntaf ydoedd JOHN SALUSBURY, mab Syr John Salusbury, Llewenni, sir Ddinbych. (Y mae'r ddogfen sydd yn cynnwys y cytundeb priodas a'r trefniadau ynglŷn â thiroedd, etc., wedi ei dyddio 11 Chwefror 1556-7.) Bu iddynt ddau fab — (i) Thomas (ganwyd c. 1564), a (ii) John (ganwyd 1565 neu 1566; bu farw yn 1566 — o flaen ei dad).

(2) Yr ail ŵr ydoedd (Syr) RICHARD CLOUGH. Aeth gyda Clough i Antwerp, lle yr oedd ef mewn busnes yn cynrychioli Syr Thomas Gresham. Am y cyfnod hwn yr adroddir (gan T. Pennant ac eraill, gweler Pennant, Tours in Wales, arg. 1810, ii, 146-7) sut y bu i Maurice Wynn ei gynnig ei hun iddi pan oedd hi ar ei ffordd o gynhebrwng ei gŵr cyntaf ac iddi hithau ei hysbysu iddi dderbyn cynnig Syr Richard Clough pan oedd hi ar ei ffordd i'r cynhebrwng, eithr ‘that in case she performed the same sad duty (which she was then about) to the knight, he might depend on being the third.’ O Antwerp aethant i Sbaen; yn 1569 aethant i Hamburg, lle y bu Clough farw yn 1570. Bu iddynt ddwy ferch — (i) Anne (ganwyd 1568), a briododd Roger Salusbury, a (ii) Mary (ganwyd 1569), a briododd William Wynn, Melai. Adroddir i Clough adael llawer o'i dda bydol i Catrin, ei ddwy ferch, a'i ddau lysfab. Wedi iddi ddychwelyd i Berain ceir Wiliam Cynwal yn paratoi ach a disgrifio arfau Catrin a'i thylwyth; dyma ei eiriau ef ei hun yn ei lawysgrifen ei hun yn MS. 184 yn Christ Church, Rhydychen (ac yn y copi ffotostat sydd yn N.L.W. MS. 6496): ‘Y llyfr hwnn a ddechreuais i Wiliam Kynwal prydydd dynnu i arvau ac yscrivenu i iachau ai gowyddau pann oedd oed Krist 1570 i meistres Katrin aeres Tudur ap Robart Vychan o Lann ufudd … ac aeres yn dal tir i mam Sian verch S r rolant Veillaveille o brytaen marchoc ac yn y llyfr hwnn y kair iachau meistres Katrin ai henaviaid ai harvau wedi i tynnu allan o amravaelion llyfrau awduriaid … ac ar ôl hynny y kair kowyddau moliant a marwnadau i thad ai thaid ai hynafiaid ac y kair i chowyddau hithau ai gwyr priod …’

(3) Rywbryd cyn Ionawr 1573 priododd Catrin MAURICE WYNN, Gwydir — efe yn briod am y drydedd waith a hithau yn wraig am y drydedd waith ac yn dyfod yn llysfam i Syr John Wynn, Gwydir. Trefnwyd (yn 1574) priodas rhwng ei mab ieuanc hi, Thomas Salusbury (o'i gwr cyntaf), â Margaret, merch Maurice Wynn o'i wraig gyntaf. Arweiniodd hyn i helynt ynglŷn â mater gwarchodaeth Thomas a ddaethai'n ward iarll Leicester ar farwolaeth ei daid (John Salusbury) ar 18 Mawrth 1577-1578. Bodlonodd Leicester, fodd bynnag, maes o law, a rhoes ganiatâd i'r trefniadau a gynhwysid yn yr amodau priodas gael eu cwblhau. Bu Maurice Wynn farw yn Awst 1580, gan adael dau o blant o'i drydedd briodas, sef (i) Edward, a (ii) Jane.

(4). Yn ddiwethaf oll, rywbryd yn 1583, priododd Catrin EDWARD THELWALL, mab Simon Thelwall, Plas-y-ward, gerllaw Rhuthyn. Tua'r un adeg trefnwyd priodas i gymryd lle rhwng Jane (merch Catrin a Maurice Wynn) a Simon (ganwyd 1570), mab Edward Thelwall pedwerydd gŵr Catrin.

Yn 1585-6 ganwyd merch i Thomas Salusbury (cyntaf-anedig Catrin) a Margaret ei wraig, eithr ym mis Medi 1586 dienyddiwyd y tad am deyrnfradwriaeth — oherwydd fod iddo gyfran yn y Babington Plot — ac anfonwyd comisiwn i Gymru i edrych i mewn i'w ystad, etc. Ym mis Hydref yr un flwyddyn priododd John, ail fab Catrin — yr oedd bellach yn Syr John Salusbury, Llewenni — Ursula, merch Henry Stanley, 4ydd iarll Derby (gweler N.L.W. MS. 5390).

Pan fu farw ei thad-yng-nghyfraith, Simon Thelwall, symudodd Catrin ac Edward Thelwall i Blas-y-ward a setlo Berain ar ei hwyres, Margaret Salusbury.

Bu Catrin farw 27 Awst 1591, a chladdwyd hi yn Llanyfydd. Daethpwyd i adrodd storïau lawer, gwir ac anwir, amdani. Yn ystod ei bywyd ac ar ôl ei marw talwyd llawer teyrnged iddi hi a'i thylwyth gan feirdd ac eraill — ceir esiamplau yn Christ Church MS. 184 (ac yn N.L.W. MS. 6495-6). Y mae iddi bwysigrwydd per se; eithr yr hyn a'i gwna'n fwy pwysig ydyw ei chysylltiadau teuluol a phriodasol hi ei hun a rhai o'i disgynyddion; e.e. ceir HESTER LYNCH SALUSBURY (Thrale, a Piozzi, yn ddiweddarach) yn disgyn o'r briodas gyntaf, a Syr WATKIN WILLIAMS -WYNN, 3ydd barwnig Wynnstay, yn disgyn o'r drydedd. Rhydd Syr John Ballinger (mewn erthygl faith ar ‘Cathrin o'r Berain’ yn Y Cymmrodor, xl) bedwar tabl achau, darluniau o'r modd y torrai Catrin ei henw ar ddogfennau (fe welir mai ‘Katheryn’ a ddefnyddir fynychaf ganddi), a lluniau'r pedwar darlun ohoni (gyda thrafodaeth arnynt) sydd ar gael (ac a ddangoswyd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1927).

Yn The Celtic Peoples and Renaissance Europe (Llundain a New York, 1933), dengys Dr. David Matthew fel y gwelir yn y pedair priodas y symud graddol o'r grefydd Babyddol i'r grefydd Brotestannaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/