Ganwyd ym 1561, mab hynaf ac aer Syr John Salusbury ieuengaf (gweler dan Salusbury (teulu)) a Chatrin, merch Tudur ap Robert Vychan o Ferain. Ceir blwyddyn ei eni mewn englyn gan William Cynwal, N.L.W. MS. 1553. Ganwyd ei frawd (Syr) John yn 1566 (englyn gan Wiliam Cynwal yn N.L.W. MS. 6495 (yn wynebu t. 1); englynion yn enwi pump o'i blant yn yr un llawysgrif gan amryw feirdd.
Ymaelododd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, 29 Ionawr 1579/80, pan yn 16 oed (nid yr un yw ef â'r Thomas Salusbury a enwir yn Foster, Reg. of Adm. to Gray's Inn dan y flwyddyn 1573; cf. hefyd D.N.B.). Wedi tymor yn Rhydychen, aeth i wasnaethu iarll Leicester, ei warcheidwad a'i noddwr, a thra yn Llundain ymddengys iddo droi'n Gatholig, a thua 1580 ymuno â nifer o wyr ieuainc nwyfus eraill o gylch y Llys a bleidiai achos Mari, frenhines y Sgotiaid.
Yn gynnar yn 1586 daeth Salusbury a chyfaill arall o Gymro, Edward Jones o Blas Cadwgan ger Wrecsam, dan ddylanwad Anthony Babington a gynllwyniai i ladd Elisabeth, rhyddhau Mari, a'i gosod ar yr orsedd. Daeth y cynllwyn i sylw'r awdurdodau; cipiwyd Babington ddiwedd Awst, ond llwyddodd Salusbury i ddianc i sir Gaerlleon, lle y daliwyd yntau ymhen ychydig ddyddiau. Dygwyd ef a'r cynllwynwyr eraill gerbron llys arbennig yn Westminster, 13 Medi, lle y cafwyd Salusbury yn euog o'r bwriad i gyhoeddi gwrthryfel yn sir Ddinbych pe llwyddasai cynllwyn Babington. Gwadai'n gryf, fodd bynnag, ei fod yn chwenychu lladd Elisabeth. Dienyddiwyd ef 21 Medi, er mawr loes a dychryn i'w deulu ac eraill o'i gydnabod yn sir Ddinbych.
Priododd Salusbury, pan yn 10 oed, Margaret, merch i drydydd gwr ei fam, Maurice Wynn o Wydir. Aeth stad Llewenni i'w frawd, Syr John Salusbury (bu farw 1612).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.