PIOZZI, HESTER LYNCH (1741 - 1821), awdures

Enw: Hester Lynch Piozzi
Dyddiad geni: 1741
Dyddiad marw: 1821
Priod: Gabriele Mario Piozzi
Priod: Henry Thrale
Rhiant: Hester Lynch Salusbury (née Cotton)
Rhiant: John Salusbury
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdures
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Cyfaill y Dr. Samuel Johnson. Ganwyd 16 Ionawr 1741 yn Bodfel, gerllaw Pwllheli, Sir Gaernarfon, merch John Salusbury, Bachygraig, Sir y Fflint, a Hester Lynch Cotton (bu farw 1773), merch Syr Thomas Cotton, barwnig, Combermere a Llewenni (gweler Cotton, Syr Stapleton). Ymhyfrydai yn neilltuol yn ei thras Cymreig a'i pherthynas â Chatrin o'r Berain - yr oedd ei thad yn disgyn o ail briodas Catrin a'i mam o'r briodas gyntaf; gweler J. Ballinger, ' Katheryn of Berain,' yn Cymm., xl. Disgrifir ei gyrfa yn bur lawn yn y D.N.B. a gweithiau eraill, ac yn llawn iawn mewn gwaith cymharol ddiweddar (Oxford, 1941), sef James L. Clifford, Hester Lynch Piozzi (Mrs. Thrale); cafodd Clifford gyfle i astudio defnyddiau a gafwyd gan lyfrgelloedd yn weddol ddiweddar - y 'Thraliana' yn llyfrgell Henry E. Huntington, San Marino, California, llawysgrifau lawer yn llyfrgell John Rylands, Manchester, a'r ' Brynbella Piozziana ' a chasgliadau llai yn Ll.G.C.

Dangosodd Hester dalent i ysgrifennu a dysgu ieithoedd pan nad oedd eto ond merch ieuanc. Eiddil oedd moddion cynhaliaeth ei thad, a fu am gyfnod yn Nova Scotia ac Iwerddon; yr oedd at hynny braidd yn ddidoriad. Treuliodd flynyddoedd ei morwyndod, hyhi a'i mam - a'r tad weithiau - yn aros gyda pherthnasau yn Llewenni, yn Offley Park, swydd Hertford, cartref Syr Thomas Salusbury, brawd ei thad, neu yn Llundain. Bu'r tad farw yn 1762; yr oedd ef eisoes wedi dangos na fynnai ef i'w ferch briodi Henry Thrale, darllawydd cyfoethog, Llundain a Streatham, y gŵr yr oedd Syr Thomas Salusbury mor awyddus am iddi ei briodi. Eithr priodi Thrale a wnaeth hi - ar 11 Hydref 1763 - a mynd i fyw i Streatham (ac ar brydiau yn y Borough, Llundain, yn ymyl y darllawdy). Ymhen ychydig daeth i adnabod y Dr. Samuel Johnson, heblaw Oliver Goldsmith, David Garrick, a Syr Joshua Reynolds. Ymwelai'r rhain yn fynych â chartref Mr. a Mrs. Thrale a byddai Dr. Johnson yn aros llawer yno - dros gyfnod o ugain mlynedd. Aeth Dr. Johnson gyda Mr. a Mrs. Thrale ar daith i Ogledd Cymru yn 1774, gan fyned cyn belled â Bodfel; am hanesion y daith, fel yr ysgrifennwyd hwynt gan Mrs. Thrale a Johnson, gweler A. M. Broadley, Doctor Johnson and Mrs. Thrale (London, 1910). Aeth Johnson gyda hwy i Ffrainc hefyd, yn 1775; gweler The French Journals of Mrs. Thrale and Doctor Johnson, a gyhoeddwyd gan y John Rylands Library, Manchester, yn 1932. Bu Thrale farw 4 Ebrill 1781. Parhaodd y cyfeillgarwch â Johnson hyd y penderfynodd y weddw briodi Gabriele Piozzi, Eidalwr ac athro miwsig, ym mis Gorffennaf 1784; yr oedd Johnson a llu o bobl eraill, yn cynnwys merched Thrale a Mrs. Thrale, yn gryf iawn yn erbyn y briodas. Wedi'r briodas aeth Mr. a Mrs. Piozzi ar daith i'r Eidal. Pan ddychwelasant, ym mis Mawrth 1787, yr oedd yn amlwg fod llawer o'r drwg deimlad yn erbyn Mrs. Piozzi wedi diflannu. Buont yn byw yn Streatham am rai blynyddoedd - hyd 1795 pryd y symudasant i Sir y Fflint, lle yr atgyweiriwyd Bachygraig, y tŷ a adeilasid gan Syr Richard Clough, ail ŵr Catrin o'r Berain, ac yr adeiladwyd tŷ newydd, Brynbella , lle yr ymsefydlasant (a threulio llawer o amser yn Bath). Yn y cyfamser mabwysiadwyd nai i Piozzi ganddynt, sef John Piozzi, Eidalwr, a ddaeth wedyn yn Syr John Piozzi Salusbury (bu farw 1858). Bu Gabriele Piozzi farw yn Brynbella, 26 Mawrth 1809. Yn ddiweddarach, gwnaeth y weddw y mab mabwysiedig yn aer iddi ei hun.

Cyhoeddodd Mrs. Piozzi (a) y ' Preface ' a naw darn o farddoniaeth yn Florence Miscellany (Florence, 1785); (b) Anecdotes of the late Samuel Johnson, Ll.D., during the last twenty years of his life (London, 1786, ac amryw arg. eraill); (c) Letters to and from the late Samuel Johnson (London, 1788); (ch) Observations and reflections made on the course of a journey through France, Italy, and Germany (London, 1789; arg. arall, Dublin, 1789; cyf. Almaeneg, Frankfort und Mainz, 1790); (d) The Three Warnings (Kidderminster, 1792); (dd) British Synonymy; or an attempt at regulating the choice of words in familiar conversation (London, 1794; Dublin, 1794; Paris, 1804); (e) Three Warnings to John Bull before he dies. By an Old Acquaintance of the Public (London, 1798); (f) Retrospection (London, 1801).

Yr oedd i'r awdures gylch eang iawn o gydnabod ac o ohebwyr yn Lloegr a Chymru (gweler J. L. Clifford, op. cit.). Ymysg ei chydnabod Cymreig yr oedd Thomas Pennant, y 'Ladies of Llangollen,' Lewis Bagot, esgob Llanelwy, Margaret Owen, Penrhos, a Mrs. Siddons. Treuliodd gryn lawer o'i blynyddoedd olaf yn Bath. Bu farw yn Clifton ar 2 Mai 1821 a'i chladdu yn Nhremeirchion, ei phlwyf ei hun, ar 16 Mai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.