COTTON, Syr STAPLETON, (1773 - 1865), 6ed barwnig, wedyn is-iarll 1af Combermere, maeslywydd

Enw: Stapleton Cotton
Dyddiad geni: 1773
Dyddiad marw: 1865
Rhiant: Frances Russel Cotton (née Stapleton)
Rhiant: Robert Salusbury Cotton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: maeslywydd
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Aelod o deulu Salbriaid Llewenni - gweler yr ach yn J. E. Griffith, Pedigrees, 222. Gadawodd Syr JOHN SALUSBURY (a fu farw'n ddiblant, 1684) y stad i'w chwaer HESTER (bu farw 1710), a briododd Syr ROBERT COTTON, y barwnig 1af o Combermere (bu farw 1713). Priodwyd eu mab, Syr THOMAS COTTON, ail farwnig (bu farw 1715) â Philadelphia Lynch. Cawsant dri o blant; daeth eu merch Hester yn wraig i John Salusbury, Bachygraig, ac felly'n fam i Hester Lynch Piozzi. Bu farw'r mab, hynaf, Syr ROBERT SALUSBURY COTTON (3ydd farwnig), yn ddiblant, yn 1748, ond cafodd ei frawd Syr LYNCH SALISBURY COTTON (y 4ydd barwnig, bu farw 1775) fab, Syr ROBERT SALUSBURY COTTON (y 5ed barwnig, bu farw 1807), a briododd FRANCES RUSSEL STAPLETON, cyfaeres teulu Bodrhyddan (J. E. Griffith, op. cit., 260-1). Eu mab hwy, ganwyd 14 Tachwedd 1773 (yn Llewenni), sydd dan sylw yn awr. Adroddir hanes ei yrfa filwrol ddisglair yn llawn yn y D.N.B. Bu'n milwrio yn Fflandrys, ym Mhenrhyn Gobaith Da, ac yn yr India, lle y daeth i sylw Syr Arthur Wellesley, a'i gwnaeth yn bennaeth y marchlu yn Sbaen, ac a fuasai wedi ei ddewis i arwain y marchlu yn Waterloo pe cawsai ei ffordd ei hunan. Wedyn, bu'n rhaglaw Barbados (1817-20), yn brif gadfridog yn Iwerddon (1822-5), ac yn yr India (1825-30), a dyrchafwyd ef yn faeslywydd yn 1855. Cafodd ei godi'n farwn yn 1815, ac yn is-iarll yn 1827. Bu farw 21 Chwefror 1865. Rhoes ei ŵyr ieuaf, y milwriad R. S. G. Cotton, o Lwyn Onn, Llanfairpwll (1849 - 1925), gasgliad diddorol o bapurau'n delio ag ystadau'r teulu yn ynysoedd India'r Gorllewin yn rhodd i Lyfrgell Coleg y Gogledd. Yr oedd James Henry Cotton, deon Bangor, yn gefnder i'r maeslywydd - eu tadau'n frodyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.