Ganwyd 10 Chwefror 1780, mab George Cotton, deon eglwys gadeiriol Caer, a Catherine, merch James Tomkinson, Dorfold Hall, Nantwich. Cafodd ei addysg yn ysgol Rugby a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Fe'i hordeiniwyd yn 1803, a bu'n gurad Stoke, 1803, a Thornton, sir Gaer, 1806. Fe'i dewiswyd yn rheithor Derwen, sir Ddinbych, 1809, yn is-ficer Bangor (trwy gyfnewid), ac yn brif gantor eglwys gadeiriol Bangor, 1810, yn rheithor Llandyfrydog, sir Fôn, 1814, a Llanllechid, 1821. Yn 1838 fe'i gwnaethpwyd yn ddeon Bangor a rheithor y Gaerwen, sir Fôn, a Gyffin gerllaw Conwy, 1838. Priododd (1), yn 1819, Mary Anne, merch H. W. Majendie, esgob Bangor (bu hi farw fis Hydref 1823, gan adael un mab, sef H. J. Cotton, rheithor Dalbury, swydd Derby, yn ddiweddarach), a (2), Mary Laurens, merch Samuel Fisher, M.D., Bath. (Bu hithau farw yn 1828, gan adael dwy ferch; gwraig Evan Lewis, deon Bangor yn ddiweddarach, oedd un o'r ddwy.) Bu'r deon Cotton farw 28 Mai 1862.
Fe'i taflodd Cotton ei hunan i bob rhan o waith yr Eglwys yn esgobaeth Bangor. Yr oedd yn ysgrifennydd y ' Christian Knowledge Society,' yn gadeirydd adran Bangor o'r ' British Bible Society,' yn un o sylfaenwyr cymdeithas adeiladu eglwysi yn esgobaeth Bangor (1838), ac ysbyty Môn ac Arfon (1814). O'r cychwyn fe'i cyfrifid yn apostol y mudiad addysg; yn 1810 agorodd ysgol Sul yn yr eglwys gadeiriol a'r ysgolion cenedlaethol yn Pentir a Vaynol (y ddau hyn ar y pryd ym mhlwyf Bangor), ac, yn ddiweddarach, ym Mangor ei hunan ac yn Llanllechid a'r Gaerwen. Bu'n ddiwyd yn agor ysgolion, yn dysgu mewn ysgolion, yn arolygu gwaith yr ysgolion, ac yn cyfiawnhau'r ysgolion yn y Wasg. Pan fu comisiynwyr y Llywodraeth yn ymweld ag ysgolion Gogledd Cymru wrth baratoi eu hadroddiad (a gyfenwyd yn ' Brad y Llyfrau Gleision') bu'n collfarnu eu dulliau o gasglu gwybodaeth gan eu cyffelybu i fargyfreithwyr yn ceisio baglu rhai yn rhoddi tystiolaeth.
Yn 1848 dewiswyd Cotton yn aelod o fwrdd addysg esgobaeth Bangor yr oeddid newydd ei sefydlu i gyd-drefnu a chyd-gysylltu gweithrediadau'r gwahanol gyrff yn yr esgobaeth. Yn rhinwedd ei swydd fel ficer Bangor a phrif gantor yr eglwys gadeiriol bu'n ddyfal yn gofalu am gyflwr materol yr eglwys gadeiriol. Rhoes sylw arbennig hefyd i'r gwasanaethau, yn Saesneg a Chymraeg, ac yn 1824-7 gwnaeth ad-drefniant y tu mewn i'r adeilad, gan ei rhannu'n eglwys orllewinol ar gyfer gwasanaeth plwyfol, yn yr iaith Gymraeg, ac yn rhan ddwyreiniol ar gyfer gwasanaeth yr esgobaeth fel y cyfryw, yn yr iaith Saesneg; trwy hyn gellid caniatáu i'r naill iaith a'r llall ei phriod le'n gyfan gwbl, trefniant sydd yn parhau hyd heddiw er i'r gwaith adnewyddu a wnaethpwyd o dan Syr Gilbert Scott beri troi cynllun y deon o chwith.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.