cyfeilles Hester Lynch Piozzi (Thrale) a'r Dr. Samuel Johnson; merch Lewys Owen (1696 - 1746), mab ieuengaf Syr Robert Owen, Brogyntyn, Sir Amwythig, o'i wraig Elisabeth, merch Richard Lyster, Penrhos, Sir Drefaldwyn, a Moynes Court, sir Fynwy. Yr oedd ei thad yn gymrawd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen, ac yn rheithor Barking, swydd Essex (1735-46), a Wexham, swydd Buckingham (1742-6). Ganed Margaret Owen yn 1742 yn Barking a bedyddiwyd hi yno ar 28 Tachwedd. Ar ôl marw ei mam tua 1756-8 ym Mhenrhos (cartref y teulu ar ôl dyddiau'r tad), magwyd hi a'i brawd trafferthus John Owen (1741 - 1823) gan eu modryb, Susanna Lyster. Yn Amwythig yr oedd ei chartref ond treuliodd gryn dipyn o'i hamser yng nghwmni Mrs. Thrale, perthynas pell iddi a chyfaill bore oes. Trwy Mrs. Thrale y daeth i gysylltiad â chylch llenorion enwog y cyfnod. Erbyn 1777 yr oedd ar delerau cyfeillgar â'r Dr. Johnson, Dr. Charles Burney, Samuel Boswell, Fanny Burney, William Seward, ac eraill, a chedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol (casgliad Brogyntyn) rai o'r llythyrau a ysgrifennwyd iddi gan y Dr. Johnson, Mrs. Thrale, a Fanny Burney. Yn 1777 peintiodd Syr Joshua Reynolds ddarlun ohoni. Bu farw'n ddibriod yn Amwythig ar 25 Hydref 1816 a chladdwyd hi ym Mhenrhos ar 6 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.