Ganwyd yn 1792, mab Robert Salusbury (wedi hynny, sef yn 1795, Syr Robert Salusbury, barwnig) a'i wraig Catherine Vaun, aeres Llanwern, sir Fynwy. O ochr ei dad yr oedd yn disgyn o ail briodas Catherine o'r Berain. Dilynodd ei frawd, Syr Thomas Robert Salusbury, ail farwnig, yn 3ydd barwnig yn 1835. Yr oedd yn llenor ac yn hynafiaethydd, yn cymryd diddordeb arbennig yn hanes sir Fynwy. Y mae yn N.L.W. MS. B.R.A. 328 lythyrau a dderbyniodd oddi wrth Richard Llwyd (‘Bard of Snowdon '), John Montgomery Traherne, ac eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/