Ganwyd 5 Hydref 1788 yn Coedriglan, gerllaw Caerdydd, mab Llewellyn Traherne, a etifeddasai stad Coedriglan. Ar yr ochr fenywol yr oedd y teulu'n disgyn o Herbertiaid Abertawe; erbyn y 17eg ganrif - ac efallai cyn hynny - yr oedd wedi ymsefydlu yn Castellau gerllaw Llantrisant.
Cafodd J. M. Traherne ei addysg mewn ysgolion preifat cyn ei anfon i Goleg Oriel, Rhydychen, yn 1807; graddiodd yn 1810. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1812 ac yn offeiriad yn 1813. Ni bu erioed â gofal plwyf arno, ond o 1844 hyd 1851 yr oedd yn ganghellor esgobaeth Llandaf. Dywed ef ei hunan nad oedd ganddo pan oedd yn efrydydd yn Rhydychen ddim medr yn y clasuron ac iddo felly fynychu dosbarthiadau lle y darlithid ar lysieueg, cemeg, ac anatomi. Fe'i dewiswyd yn gymrawd o'r Royal Society yn 1823, eithr nid oes ond ychydig yn aros i ddangos pa waith gwyddonol a wnaeth ef ei hunan. Yn rhyfedd iawn, a chofio maint ei ddiddordeb mewn hynafiaethau, ni ddaeth yn gymrawd o'r Society of Antiquaries hyd y flwyddyn 1838. Yr oedd yn gyfarwydd â llu o bobl o bwys ym mydoedd gwyddoniaeth a llenyddiaeth; gweler llythyrau oddi wrth amryw o'i ohebwyr yn NLW MS 6598D , NLW MS 6599C , NLW MS 6600E . Priododd 23 Ebrill 1830 â Charlotte Louisa, trydedd ferch Thomas Mansel Talbot, Margam; sylwer iddo astudio llawer ar ddogfennau Margam (yn Ll.G.C. yn awr) a bod i'w wraig hefyd lawer o ddiddordeb mewn hanes a llenyddiaeth. Beth amser cyn ei briodas tynasai Traherne hen dŷ Coedriglan i lawr - tua'r flwyddyn 1823, mae'n debyg - a chodi tŷ newydd yn is i lawr y bryn yn null y 'Regency.'
Gadawodd lu o lyfrau nodiadau ar ei ôl. Cyhoeddodd lawer heb roddi ei enw wrtho neu o dan ffugenw; cynorthwyodd lawer o'i gyfeillion, e.e. L. W. Dillwyn, gyda'i Contributions to the History of Swansea, Y pethau pwysicaf a gyhoeddodd oedd (a) Lists of Knights of the Shire for Glamorgan, 1822; (b) Historical Notices of Sir Matthew Cradock, Knt. of Swansea, in the Reigns of Henry VII and VIII (Llandovery, 1840) (gweler NLW MSS 6522-6524D ); (c) Stradling Correspondence: A Series of Letters written in the Reign of Queen Elizabeth, with Notices of the Family of St. Donats Castle, Co. Glamorgan (London, 1840) - yr olaf ydoedd ei waith pwysicaf; gweler NLW MS 6555B - NLW MS 6556E . Yr oedd iddo ddiddordeb dwfn yn hanes a llenyddiaeth Cymru a gwyddai fwy na neb yn ei oes am hanes Morgannwg; bu un o lawysgrifau Llywelyn Siôn o Langewydd (NLW MS 6511B yn awr) yn eiddo iddo. Yr oedd ei gasgliad o lyfrau achau yn helaeth; daeth i'w feddiant gyfran helaeth o lawysgrifau William Davies, Cringell, hanesydd Morgannwg. Bu farw yng Nghoedriglan 5 Chwefror 1860. Ymddengys i rai o'i lawysgrifau ddyfod yn eiddo ei gyfaill Syr Thomas Phillipps, Middle Hill, ac felly fynd i Lyfrgell Dinas Caerdydd; daeth cyfran helaeth iawn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd (o blasty S. Hilary, Sir Forgannwg); am fanylion am y rhai sydd yn Ll.G.C. gweler N.L.W. Handlist of Manuscripts, ii, 188-98. Heblaw y cymdeithasau a enwyd eisoes yr oedd Traherne â chyswllt rhyngddo a llu o fudiadau addysgol a diwylliannol yng Nghymru; am enghreifftiau o hyn gweler NLW MSS 6522-6524D, 6525-6526E, 6527F, 6528E , NLW MS 6577E , NLW MS 6578E , NLW MS 6583F , NLW MS 6591E . Na chymysger ef â hynafiaethydd arall, G. G. T. Treherne.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.