TREHERNE (gynt THOMAS), GEORGE GILBERT TREHERNE (1837 - 1923), hynafiaethydd

Enw: George Gilbert Treherne Treherne
Dyddiad geni: 1837
Dyddiad marw: 1923
Rhiant: Rees Goring Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab ieuengaf Rees Goring Thomas (gweler dan Morris, Ebenezer, 1790 - 1867) o Lannon (Caerfyrddin) a Surrey; Ganwyd 30 Rhagfyr 1837; aeth o Eton yn Ionawr 1857 i Goleg Balliol, Rhydychen, a graddiodd yn 1861 (Foster, Alumni Oxonienses); rhwyfodd dros y brifysgol yng ngornest 1859. Newidiodd ei gyfenw'n fuan wedi gadael Rhydychen. Derbyniwyd ef yn gyfreithiwr yn 1865, a daeth yn bennaeth ei ffyrm. Gan mai â stadau mawrion yn ne-orllewin Cymru yr oedd a fynnai llawer o'i waith fel cyfreithiwr, atynwyd ef at hanes a hynafiaethau'r wlad honno; a thyfodd yn awdurdod ar dref Talacharn a'i hamgylchedd - ymddiddorai'n neilltuol yn eglwys Cymyn; darganfu yno'r arysgrif Ladin ac Ogam enwog ' Avitoria ' (An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire. Vol. V - County of Carmarthen, 40), a chyhoeddodd ddau lyfr ar yr eglwys: Eglwys Cymmin, The Story of an Old Welsh Church, 1918, ac Eglwys Cymmin Epitaphs, 1920. Ymunodd yn 1904 â Chymdeithas Hynafiaethol Cymru, a chyfrannodd bapurau i Archæologia Cambrensis Ac yr oedd yn un o'r cwmni a sylfaenodd Gymdeithas Hynafiaethol Sir Gaerfyrddin (1905); ef oedd ei llywydd cyntaf, a chyfrannodd 25 o ysgrifau i'w thrafodion. Bu farw 26 Chwefror 1923, yn ei gartref yn Ringmer, Sussex. Na chymysger ef â hynafiaethydd arall, J. M. Traherne.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.