TALBOT (TEULU), Abaty Margam a Chastell Penrhys, Sir Forgannwg.

Trwy briodi ag un o Fawnseliaid Margam a Penrhys y daeth yr aelod cyntaf o deulu Seisnig Talbot i gysylltiad â Sir Forgannwg.

JOHN IVORY TALBOT

o Lacock Abbey, Chippenham, Wiltshire, oedd y Talbot hwn. Ei wraig oedd MARY MANSEL, merch Thomas Mansel (a fu farw 1723), y barwn Mansel 1af. Mab o'r briodas hon oedd THOMAS TALBOT, offeiriad, a ddaeth, maes o law, sef ar farwolaeth Bussy, 4ydd farwn Mansel, yn ddi-etifedd yn 1750, yn aer stadau Margam a Penrhys; yr oedd Bussy a Mary Mansel yn frawd a chwaer.

Mab i Thomas Talbot a'i wraig Jane, merch Thomas Beach, oedd THOMAS MANSEL TALBOT (1747 - 1813). Priododd ef Mary Lucy Fox Strangways, merch Henry, ail iarll Ilchester, a daeth yn dad Christopher Rice Mansel Talbot (isod).

Ceir llawer o gyfeiriadau at John Ivory Talbot, Thomas Talbot, Thomas Mansel Talbot, a Christopher Rice Mansel Talbot ymhlith dogfennau'r Mawnseliaid a'r Talbotiaid yn Ll.G.C.; gweler hefyd lawysgrifau John Montgomery Traherne (brawd-yng-nghyfraith C. R. M. Talbot) yn Ll.G.C. Er enghraifft, ceir cyfeiriad at ddiddordeb Thomas Mansel Talbot yn niwydiannau'r ardal y preswyliai ynddi yn NLW MS NLW MS 6582E . Y mae llythyrau a ysgrifennodd C. R. M. Talbot at J. M. Traherne yn NLW MS 6599C , NLW MS 6600E ; gweler hefyd ddogfennau Margam a Penrice 9237-45, heblaw cyfeiriadau yng nghatalog Ll.G.C. o rai o'r llythyrau sydd yn yr un casgliad o ddogfennau.

O'r pedwar hyn

CHRISTOPHER RICE MANSEL TALBOT (1803 - 1890),

oedd y pwysicaf ym mywyd cyhoeddus Sir Forgannwg. Ganed ef yng nghastell Penrhys, 10 Mai 1803, yn fab Thomas Mansel Talbot a'i wraig, y Lady Mary Lucy Fox Strangways a enwyd uchod. Cafodd ei addysg yn Harrow a Choleg Oriel, Rhydychen (B.A. gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn mathemateg, 1824). Etifeddodd y stadau yn 1824. Priododd, 28 Rhagfyr 1835, Lady Charlotte Butler (a fu farw 1846), merch Richard, iarll 1af Glengall. Bu'n cynrychioli sir Forgannwg yn y Senedd am gyfnod hir, sef o 1830 hyd ei farw; daeth i gael ei gyfrif, o 1874 hyd 1890, yn 'Dad Tŷ'r Cyffredin.' Etholwyd ef gyntaf yn 1830 i ddilyn ei lys-dad, Syr Christopher Cole (bu farw 1836), ail ŵr ei fam (am rai o helyntion etholaethol Cole gweler NLW MSS 6575-6576E ). Ailetholwyd ef bob tro y safodd wedi hynny, sef yn 1831, 1832, 1835, 1837, 1841, 1847, 1852, 1857, 1859, 1865, 1868, 1874, 1880; yn etholiad 1885 daeth yn aelod etholaeth newydd, sef canolbarth Morgannwg, a'i ailethol yn 1886. Apwyntiwyd ef yn arglwydd-raglaw Sir Forgannwg yn 1848. Yr oedd yn F.R.S. (1831).

Bu C. R. M. Talbot farw 17 Ionawr 1890 gan adael dwy ferch ddi-briod, sef Olivia Emma Talbot (a fu farw 1894) ac EMILY CHARLOTTE TALBOT (bu farw 1918), a merch arall, Bertha Talbot, gwraig John Fletcher, Saltoun Hall, swydd Haddington, Sgotland. Yr oedd y chwiorydd hyn yn noddwyr hael i lawer o fudiadau yn Sir Forgannwg, ac yn enwedig i eglwysi; Emily Talbot a drefnodd i Walter de Gray Birch, o'r Amgueddfa Brydeinig, gatalogio (mewn chwe chyfrol brintiedig) y miloedd dogfennau Margam a Penrice sydd bellach yn Ll.G.C. Buasai Theodore Mansel Talbot, brawd y tair chwaer, farw o flaen ei dad.

Gor-ŵyr i Mary Mansel a John Ivory Talbot oedd

WILLIAM HENRY FOX TALBOT (1800 - 1877), darganfyddwr (ym Mhrydain) y modd o dynnu lluniau drwy ffotograffi

Ganwyd 11 Chwefror 1800. Dathlwyd canmlwyddiant darganfyddiad a datblygiad method yr arloeswr hwn yn 1951. Bu farw 17 Medi 1877, yn Lacock Abbey. Ceir manylion pur helaeth amdano ac am ei gyhoeddiadau gwyddonol yn yr erthygl arno yn y D.N.B. Ef oedd aer teulu Lacock Abbey; yr oedd ei fam ef yn chwaer i wraig Thomas Mansel Talbot - y ddwy yn ferched ail iarll Ilchester.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.