Gŵr a hanoedd o Langewydd yn Nhrelales yn ymyl Penybont-ar-Ogwr. Mynnai 'Iolo Morganwg' mai Llywelyn Siôn oedd yr athrylith a roes drefn a dosbarth ar 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain' ac mai 'trwy ei fanyldeb a'i ddiwydrwydd y cynullwyd deunydd Cyfrinach y Beirdd ' - y cwbl, wrth gwrs, yn ffugiad.
Fel copïwr proffesyddol mwyaf ei gyfnod yr haedda ei gydnabod; nid oedd yn gopïwr mor doreithiog â John Jones o'r Gellilyfdy neu Robert Vaughan o Hengwrt, ond y mae mwy o drefn a dosbarth yng nghynnwys ei lawysgrifau, heb ddim o fympwyon llythrennol ei gyfoeswyr. Y mae yn aros 13 o'i lawysgrifau - saith yn llawysgrifau o gywyddau ac awdlau, un casgliad o gwndidau, un llawysgrif achyddol, a phedair yn cynnwys testunau rhyddiaith. Ei gyfnod prysuraf fel copïwr oedd 1585-95; 1595-1600 ei oes aur; a 1600-13 a roes inni ei gyfraniadau pwysicaf, sef ei lyfrau hirgul - ' Llyfr Hir Amwythig,' ' Llyfr Hir Llywarch Reynolds,' a ' Llyfr Hir Llanharan.' Trwy ei ddiwydrwydd y diogelwyd casgliadau pur gyflawn o farddoniaeth beirdd distadlaf Morgannwg yn hanner olaf yr 16eg ganrif ochr yn ochr â barddoniaeth rhanbarthau eraill Cymru. Yn ei law ef hefyd (Llanover MS. B 9) y ceir y casgliad cyflawnaf o gwndidau sy'n ffynhonnell ein gwybodaeth am hanes y cwndid a datblygiad y canu rhydd ym Morgannwg yn yr 16eg ganrif. Pwysig hefyd yw ei lawysgrifau o ryddiaith; ei gopi ef o'r ' Drych Cristnogawl ' (Gruffydd Roberts) yw'r unig gopi cyflawn a oroesodd yn cynnwys y tair rhan o'r ' Drych ' (Singleton MS. 1, Caerdydd); yn Llanover MS. B 17 ceir testun o ' Chwedl Seith Doethon Rufain ' sydd yn gwbl wahanol i'r naw testun arall a oroesodd mewn llawysgrifau, ac yn ei ysgriflaw ef y mae'r unig gopi Cymraeg o'r ' Gesta Romanorum.' Yn ei lawysgrifau y ceir y darlun cyflawnaf o fywyd llenyddol byw ei gyfnod ym Morgannwg, a thrwy ei weithgarwch y rhoed ar gadw lawer o drysorau ein llên mewn cyfnod a oedd yn enwog am ei chwalu a'i ddinistrio.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.