Gofalodd y copïydd nodedig hwn y câi pob 'Annwyl ddarllenydd' a ddarllenai ei lawysgrifau ef wybod o ba dras yr oedd, gan iddo ddechrau (neu ddiweddu) llawer o'i lawysgrifau gyda manylion tebyg i'r rhai hyn (yn Peniarth MS 224 ) amdano'i hun: ' Sion ap Wiliam ap Sion ap Wiliam ap Sion ap Dafydd ab Ithel Vychan ap Kynrig ap Rrotbert ap Ierwerth ap Rryrid ap Ierwerth ap Madog ab Ednowain Bendew …,' gydag, ar brydiau, ychwanegiad fel hyn: 'Yr hwnn Sion ap Wiliam a elwir yn ol y Seisnigawl arfer John Jones.' Ganed, yn ôl pob tebyg, ym Mhlas (neu Henblas) Gellilyfdy (neu Gelli Loveday). Yr oedd ei daid yn berchen llawysgrifau; canodd Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal farwnadau ar ei ôl ef. Yr oedd llawysgrifau gan ei dad hefyd a chan ddau ewythr iddo. Anfonwyd John Jones (a brawd iddo) i Amwythig am gwrs o addysg - addysg yn y gyfraith efallai. Ymddengys iddo fod yn gwasnaethu mewn rhyw gylch neu'i gilydd yn 1609 yng Nghyngor y Goror, Llwydlo; dywed Robert Williams (Eminent Welshmen) fod John Jones yn atwrnai erbyn hyn. Ddwy flynedd wedi hynny ceir ef yn Llundain - eithr yng ngharchar; o bosibl mai dyma'r cyntaf o'r llu tymhorau y bu raid iddo eu treulio yng ngharchar. Yn 1612, fodd bynnag, y mae yng Nghaerdydd yn copio 'Llyfr Llandaf.' Y mae yng ngharchar drachefn yn 1617; y tro hwn enwir y carchar, 'The Fleet Prison,' Llundain ('y Fflud' fel y geilw'r carcharor ef fwy nag unwaith). Efallai iddo orfod aros yno hyd 1626-7, er y gwyddys iddo drosglwyddo rhai o'i diroedd yn 1619 er mwyn gallu talu rhai o ddyledion ei dad a'i ddyledion ei hunan. Yn 1625-6 dirwywyd ef £ 200 yn Llys y Seren. O hyn ymlaen, hyd ddiwedd ei oes ymron, yr oedd i mewn ac allan o'r carchar - y Fflud ran amlaf - er bod awgrymiadau iddo gael ei garcharu yn Fflint, Caer, ac efallai Llwydlo. Am fanylion ynglŷn â'i ymgyfreithio a'r cyfreithio yn ei erbyn, ei anawsterau ariannol, ei fynych apeliadau at wahanol bersonau (Endymion Porter, y tywysog Rupert, etc.), gweler traethawd gradd Prifysgol Cymru a gyflwynodd Samuel Jones yn 1926; yn hwnnw (y mae copi ohono yn y Llyfrgell Genedlaethol) ceir astudiaeth o waith John Jones a Robert Vaughan o Hengwrt fel copïwyr ynghyd â chopïau o ddogfennau gwreiddiol sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Brydeinig, y Public Record Office, etc.
Fel y digwyddodd, cafodd John Jones hamdden yn ystod ei wahanol garchariadau i wneuthur y gwaith nodedig hwnnw y coffeir ef byth er hynny o'i blegid - sef copio llawysgrifau (rhai ohonynt yn hen ac yn gandryll) a'r copïo hwnnw mewn llawysgrifen nodedig a nodweddiadol. Dechreuasai gopïo yn 1598 pan oedd yn Amwythig - gweler Peniarth MS 361 . O hynny ymlaen bu'n ddiwyd iawn; y mae dros 100 o'i lawysgrifau wedi eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, y rhan fwyaf ohonynt yng nghasgliad Hengwrt-Peniarth; ceir esiamplau hefyd yn llyfrgell dinas Caerdydd, yr Amgueddfa Brydeinig, etc. Nid copïydd cyffredin mo John Jones. Yr oedd wedi astudio llyfrau (gan Eidalwyr, gan mwyaf) ar lawysgrifen; y mae un o'r llyfrau patrymau a wnaeth ef ei hun wedi ei gadw hyd heddiw (Peniarth MS 307 ), cyfrol y dylid ei hastudio ochr yn ochr â Libro di M. Giovan Batiista (a gyhoeddwyd yn 1545), llyfr a ddefnyddiodd John Jones ar un adeg ac sydd bellach yng nghasgliad Hengwrt-Peniarth. Mabwysiadodd ddull nodedig o lythrennu; gweler traethawd Samuel Jones am enghreifftiau o'r cymeriadau llythrennol a ddefnyddid ganddo a chofier hefyd fod 'Siôn Dafydd Rhys,' Gruffydd Robert, etc., wedi defnyddio cymeriadau arbennig ychydig o'i flaen. Inc du a ddefnyddiai John Jones (gan amlaf) ar bapur gwyn (yn anffodus, rhoes weithiau ormod o elfennau sulffuraidd yn ei inc ac y mae'r rheini wedi bwyta peth o'r papur mewn rhai llawysgrifau) gan amrywio ychydig hwnt ac yma nes bod ambell i lythyren fras (cabidwl) yn edrych yn fwy o wyn nag o ddu. Rhoddai sylw arbennig i'r llythrennau cabidwl dechreuol neu addurniadau ar y diwedd - a'r rhai hyn (fel rhai o lythrennau mewn coch, gwyrdd, neu air a geir yn llawysgrifau gorau y canrifoedd cynt) sydd yn rhoddi pwysigrwydd artistig i waith y copïydd. Y mae cannoedd o'r llythrennau cabidwl nodedig hyn (ac o'r addurniadau eraill) yn ei lawysgrifau; y mae'r dylanwad Eidalaidd yn drwm arnynt, serch na ddylid anghofio bod rhai ohonynt wedi eu creu gan y copïydd ei hunan; y mae hefyd ddylanwad Celtig ac Ellmynig ar ei waith. Nid oes le yma i enwi'r holl lawysgrifau a gopïwyd gan John Jones, nac ychwaith i gyfeirio at eu cynnwys - yn farddoniaeth, yn rhyddiaith, ac yn eirfâu; ceir peth gwybodaeth ar hyn yng nghatalogiau J. Gwenogfryn Evans (Hist. MSS. Comm.). Ychydig o'r llythrennau a atgynhyrchwyd; gweler esiamplau o gasgliad Llyfrgell Caerdydd wedi eu hatgynhyrchu gan T. H. Thomas ('Arlunydd Penygarn') yn y (Cardiff) Public Library Journal, Hydref 1902 a Mawrth 1903.
Yr oedd cysylltiad agos rhwng John Jones a Robert Vaughan, Hengwrt; hynny sydd yn esbonio paham y mae cymaint o lawysgrifau John Jones wedi eu cadw yng nghasgliad Hengwrt-Peniarth. Dywedwyd i'r ddeuddyn hyn wneuthur trefniant bod llawysgrifau'r hwn a fyddai farw gyntaf i ddyfod i feddiant y llall. Prin, serch hynny, y gellid disgwyl i Robert Vaughan, a adawodd feibion ar ei ôl, wneuthur trefniant o'r fath. Y mae'n debyg i Vaughan helpu John Jones trwy dalu arian iddo o bryd i bryd, ac i'r llawysgrifau ddyfod i'w feddiant oblegid hynny. (Gweler drafftiau llythyrau yn llaw Robert Vaughan at 'Mrs. Jones of Kelliloveday,' sef gwraig John Jones, ac at ei thad hi, Peter Griffith, Caerwys, yn Peniarth MS 270 .)
Ni wyddys i sicrwydd pa bryd y bu John Jones farw; yr oedd yn fyw yn 1658, eithr bu farw o flaen Robert Vaughan.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.