THOMAS, THOMAS HENRY ('Arlunydd Penygarn '; 1839 - 1915), arlunydd, etc.

Enw: Thomas Henry Thomas
Ffugenw: Arlunydd Penygarn
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1915
Rhiant: Mary Thomas (née David)
Rhiant: Thomas Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd, etc.
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Hanes a Diwylliant
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 31 Mawrth 1839 yng ngholeg y Bedyddwyr, Pontypŵl, mab y Parch. Thomas Thomas, prifathro'r coleg o 1836 hyd 1877, a'i wraig, Mary David, Caerdydd. Addysgwyd ef gartref gan ei dad ac mewn academi a gedwid ym Mryste gan Dr. Bompas cyn iddo fynd i'r Bristol School of Art ac oddi yno i Carey's Art School a'r Royal Academy Schools yn Llundain. Wedi hynny aeth i Baris, Rhufain, etc. Daeth i adnabod John Gibson a Penry Williams yn Rhufain.

Dychwelodd i Lundain yn 1861 gan ymsefydlu fel arlunydd - portreadu personau, darlunio llyfrau, etc. Bu'n gweithio hefyd dros y Graphic a'r Daily Graphic; yn 1884 aeth i Canada fel arlunydd arbennig y cyfnodolion hyn pan oedd y British Association yn cyfarfod yn y wlad honno.

Wedi i'w dad ymneilltuo o'i swydd ym Mhontypŵl ac ymsefydlu yng Nghaerdydd, daeth T. H. Thomas yntau i'r dref yno, gan ymddiddori yn yr eisteddfod genedlaethol a helpu i sefydlu y Royal Cambrian Academy, ac mewn daeareg, archaeoleg, llêngwerin, y pethau 'japan' a gynyrchasid ym Mhontypŵl a Brynbuga, yr amgueddfa a'r llyfrgell yn ninas Caerdydd, etc.; rhydd y MSS. a nodir isod syniad am rai o'i ddiddordebau. Ef oedd un o'r rhai cyntaf i alw sylw at y llythrennau dechreuol cain yn llawysgrifau John Jones o Gellilyfdy. Bu farw 5 Gorffennaf 1915.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.