Mab William Williams, saer cerrig o Ferthyr Tydfil, a bedyddiwyd ef yno 2 Chwefror 1800. Bu'n ddisgybl i Fuseli yn ysgolion yr Academi Frenhinol ac enillodd un o fathodau arian Cymdeithas y Celfyddydau yn 1821. Ymsefydlodd yn Rhufain yn 1827 a daeth yn gyfeillgar â John Gibson yno.
Etholwyd ef yn aelod o Gymdeithas Peintwyr mewn Dyfrlliw yn 1828. Dangoswyd nifer o'i ddarluniau yn arddangosfeydd y Sefydliad Prydeinig a Chymdeithas yr Artistiaid Prydeinig a chynifer a 34 yn arddangosfeydd yr Academi Frenhinol rhwng 1822 a 1869, gan gynnwys darluniau o John Gibson a'r arglwyddes Charlotte Guest. Darluniau o fywyd yn Rhufain a golygfeydd yn yr Eidal yw mwyafrif ei waith, a cheir amryw ohonynt yn yr Oriel Genedlaethol, yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa South Kensington. Ysgythrwyd nifer o'i weithiau. Bu farw yn Rhufain 27 Gorffennaf 1885.
Cymar Penry Williams yn Rhufain oedd y cerflunydd John Gibson.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.