Bedyddiwyd ef 19 Mehefin 1790 yng Nghonwy, mab William a Jane Gibson, Gyffin, Sir Gaernarfon. Pan oedd yn 9 oed symudodd gyda'i rieni i fyw yn Lerpwl. Yr oedd yn hoff o wneuthur darluniau pan yn blentyn, ond oherwydd tlodi'r teulu ni fedrai'r rhieni dalu'r arian angenrheidiol i'w brentisio gydag arluniwr. Prentisiwyd ef gyda chwmni o seiri dodrefn, ond cyn iddo fwrw ei brentisiaeth dechreuodd ymddiddori mewn modelu a cherfio ar farmor, ac o'r diwedd llwyddodd i dorri'r cysylltiad rhyngddo a'i feistr cyntaf a phrentisiwyd ef fel gweithiwr mewn marmor gyda'r Meistri Francis yn Lerpwl. Daeth ei waith i sylw William Roscoe, yr hanesydd, a fu'n noddwr iddo am flynyddoedd, a bu ŵyres Roscoe, a ymbriododd â Henry Sandbach, Hafodunos, Abergele, yn gyfaill agos iddo ar hyd ei hoes. Mrs. Sandbach, yn ôl pob tebyg, oedd ei unig gysylltiad â gwlad ei enedigaeth am flynyddoedd lawer.
Yn 1817 symudodd Gibson i Lundain a daeth i gysylltiad ag amryw o brif gerflunwyr yr oes. Gwnaeth amryw o gerfluniau ar gais Watson Taylor, gan gynnwys un o'i noddwr cyntaf, William Roscoe. Bu â'i fryd ar ymweled â Rhufain, a chyrhaeddodd yno ym mis Hydref 1817. Astudiodd gerfluniaeth gyda Canova a Thorwaldsen a gwnaeth amryw o gerfluniau ar gais dug Dyfnaint, Syr George Beaumont, Syr Watkin Williams-Wynn, a noddwyr eraill y gelfyddyd. Yn Rhufain y treuliodd weddill ei oes ag eithrio ambell ymweliad â Lloegr, un arhosiad lled faith yn Lucca, ac ambell ymweliad â gwledydd eraill Ewrop. Treuliodd ychydig amser yn Lloegr yn 1844 pan godwyd ei gerfddelw o Huskisson yno, a pheth amser drachefn yn 1850 a 1851 tra'n gweithio ar ei gerfddelw o'r frenhines. Talodd ymweliad arall â Llundain yn 1855.
Yr oedd dylanwad y Groegiaid a'r traddodiad clasurol yn drwm ar ei waith, ac ef oedd y cyntaf i'w dynwared drwy ddefnyddio lliw yn ei waith. Dangoswyd tri cherflun lliw o'i waith, gan gynnwys 'The Tinted Venus,' ei waith mwyaf adnabyddus, yn yr arddangosfa fawr yn 1862, a chymerwyd cryn ddiddordeb ynddynt. Etholwyd ef yn A.R.A. yn 1833 ac yn R.A. yn 1835. Dangoswyd 33 o'i weithiau yn yr Academi Frenhinol rhwng 1816 a 1864. Bu farw, wedi blynyddoedd o afiechyd, yn Rhufain, 27 Ionawr 1866.
Gwnaeth lawer o gerfddelwau o bobl adnabyddus yr oes, ond seiliwyd y rhan fwyaf o'i weithiau ar destunau clasurol. Yn ôl ei ewyllys gadawodd gynnwys ei arlunfa i'r Academi Frenhinol. Gwelir enghreifftiau o'i waith mewn casgliadau preifat ac yn y mwyafrif o'r casgliadau cyhoeddus pwysig. Y mae tair cyfrol llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys nifer o lythyrau gwreiddiol o'i eiddo a thua 100 o ddarluniau gwreiddiol o'i waith.
Cymar John Gibson yn Rhufain oedd yr artist Penry Williams.
Mae plac ar Dŷ Capel Fforddlas, Glan Conwy, yn nodi mai yno y ganed John Gibson.
Brawd John Gibson, ganwyd yn Lerpwl. Yr oedd y brodyr yn gyfeillion mynwesol a buont yn cyd-fyw yn Rhufain a Lucca am oddeutu 14 mlynedd. Cafodd Benjamin well addysg na'i frawd, ac yr oedd yn ysgolhaig clasurol pur dda. Ysgrifennodd amryw erthyglau ar gyfer cylchgronau hynafiaethol Saesneg. Bu farw yn Lucca 13 Awst 1851.
Brawd arall oedd y cerflunydd Solomon Gibson (1796/7-1866).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.