THOMAS, THOMAS (1805 - 1881), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phrifathro coleg

Enw: Thomas Thomas
Dyddiad geni: 1805
Dyddiad marw: 1881
Priod: Mary Thomas (née David)
Plentyn: Thomas Henry Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Edward William Price Evans

Ganwyd yn y Bont-faen, 12 Ionawr 1805, eithr symudodd ei rieni yn fuan i fferm yn Leckwith Bridge, Caerdydd. Bedyddiwyd ef 22 Tachwedd 1818, yn aelod o'r Tabernacl, Caerdydd, a daeth yn fachgen-bregethwr poblogaidd. Wedi iddo gael addysg yn academi'r Fenni (1822-4) ac yng ngholeg y Bedyddwyr, Stepney (1824-8), cafodd ei ordeinio i ofalu am eglwys y Bedyddwyr yn Henrietta Street, Llundain, 18 Gorffennaf 1828. Yn 1836 derbyniodd alwad ddyblyg i Bontypŵl - i fod yn bennaeth coleg newydd y Bedyddwyr (a drosglwyddwyd o'r Fenni) ac yn weinidog achos newydd a fwriedid at wasanaeth Bedyddwyr Saesneg, achos sydd er y flwyddyn 1847 yn Crane Street. Gweithiodd yn ardderchog yn y ddwy swydd a bu ei ddylanwad yn barhaol. Ymddeolodd o ofalaeth yr eglwys ym mis Rhagfyr 1873 a rhoes heibio fod yn bennaeth y coleg ym mis Rhagfyr 1876, gan symud i fyw yng Nghaerdydd, lle y bu farw 7 Rhagfyr 1881; claddwyd ef ym mynwent Penygarn, Pontypŵl. Bu'n llywydd Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon, 1872-3, y Cymro Cymraeg cyntaf i'w anrhydeddu yn y modd hwn. Priododd Mary David, Caerdydd yn 1830; bu hi farw ym mis Mawrth 1881. Goroeswyd ef gan un mab - T. H. Thomas ('Arlunydd Penygarn').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.