WILLIAMS, ROBERT (1810 - 1881), clerigwr, ysgolhaig Celtig, a hynafiaethydd

Enw: Robert Williams
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1881
Rhiant: Robert Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, ysgolhaig Celtig, a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Jones

Ganwyd yng Nghonwy 29 Mehefin 1810, yn ail fab i Robert Williams, curad parhaol Llandudno. Ar ôl cael ei addysg gynnar yn ysgolion Biwmares ac Amwythig, aeth i Goleg Christ Church, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1832 ac yn M.A. yn 1836. Bu'n gurad Llangernyw, sir Ddinbych, o 1833 hyd 1836. Yn 1837 fe'i penodwyd yn ficer Llangadwaladr, ac yn 1838 yn gurad parhaol Rhydycroesau, ger Croesoswallt. Parhaodd yn ficer Llangadwaladr hyd 1877 ac yn gurad Rhydycroesau hyd 1879, pan apwyntiwyd ef yn rheithor Culmington, Swydd Henffordd. Bu'n rheithor yno ac, ar ôl 1872, yn ganon mygedol Llanelwy hyd ei farwolaeth yn ŵr dibriod, 26 Ebrill 1881; claddwyd 2 Mai yn Culmington, lle y gosodwyd carreg goffa iddo yn 1889 ac arni arysgrif mewn Cymraeg a Chernyweg.

Yn 1831 enillodd wobr gan Gymdeithas y Cymmrodorion am fraslun bywgraffyddol o'r Cymry enwocaf yn y cyfnod wedi'r Diwygiad Protestannaidd. Trefnodd y gymdeithas gyfieithiad Cymraeg ohono o dan y teitl 'Enwogion Cymru.' Yn ddiweddarach ychwanegwyd at y fersiwn Saesneg gwreiddiol ac fe'i cyhoeddwyd - Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen (Llandovery, 1852). Ei gyfraniad pwysicaf i astudiaethau Celtig yw Lexicon Cornu-Britannicum (Llandovery, 1865). Ynddo nodir enghreifftiau o'r geiriau Cernyweg, a rhoir y cytrasau yn yr ieithoedd Celtig eraill. Manteisiodd lawer ar drysorau llyfrgell Peniarth, ac ef a ddarganfu yno yr unig gopi sydd ar gael o'r ddrama Gernyweg Beunans Meriasek (neu'r Ordinale de Vita Sancti Mereadoci) a olygwyd gyda chyfieithiad gan Whitley Stokes (London, 1872). Yn 1876 gorffennwyd ei gyfrol gyntaf o'r Selections from the Hengwrt Manuscripts, ac yn 1878 a 1880 ymddangosodd y ddwy ran gyntaf o'r ail gyfrol. Cwpláwyd yr ail gyfrol yn 1892 gan G. Hartwell Jones. Ni ellir dibynnu bob amser nac ar ddarlleniadau nac ar gyfieithiadau'r ddwy gyfrol hyn.

Nodwyd ei waith pwysicaf uchod, ond y mae ganddo gyfraniadau eraill i ysgolheictod y mae'n rhaid cyfeirio atynt. Yn 1835 cyhoeddodd The History and Antiquities of the Town of Aberconwy (Denbigh); adolygodd lawer o'r nodiadau i'r argraffiad newydd (Croesoswallt, 1878) o The history of the Gwydir family gan Syr John Wynne; cyfieithodd 'Lyfr Taliesin' ar gyfer The Four Ancient Books of Wales (Edinburgh, 1868) gan W. F. Skene; ac o bryd i'w gilydd ysgrifennodd erthyglau i'r Archaeologia Cambrensis a'r Cambrian Journal. Bu'n aelod o bwyllgor golygyddol y 'Cambrian Archaeological Association.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.