Ganwyd 16 Ebrill 1859, yn Llanrhaeadr Mochnant, lle'r oedd ei dad, Edward Jones (1826 - 1892), yn ficer. Hannai o deulu David Jones ('Dewi Fardd'), Trefriw, ac felly yr oedd yn ŵyr i John Jones (1786 - 1865) yr argraffydd enwog - Gwasg 'Gwyndod Wryf' o Lanrwst. Yn 16 oed aeth i ysgol Anwythig ac oddiyno i Goleg Iesu, Rhydychen. Yr oedd yn D.D. ac yn D.Litt. Rhydychen. O 1888 hyd 1893 bu'n athro Lladin yng ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yn y cyfnod hwnnw cymerodd urddau eglwysig. Yn 1893 penodwyd ef gan goleg Iesu i fywoliaeth Nutfield, Surrey, lle'r arhosodd nes ymneilltuo yn 1940. Bu farw yn Llundain, 27 Mai 1944. Ni bu'n briod.
Ysgolhaig a hanesydd, yn hytrach nag offeiriad plwy, oedd Hartwell Jones wrth reddf, ac yr oedd yn awdur amryw gyfrolau hanesyddol, yn eu plith The Dawn of European Civilization (1903); Celtic Britain and the Pilgrim Movement (1912); ac Early Celtic Missionaries (1928). Er byw y rhan fwyaf o'i oes yn Lloegr ni phallodd ei ddiddordeb yng Nghymru. Am 20 mlynedd bu'n gadeirydd Cyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, a rhoddodd y gymdeithas ei medal iddo yn 1919 yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth nodedig i Gymru; bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, yn is-lywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, ac yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru a Mynwy. Yr oedd yn siomedig ar hyd ei oes na chafodd le yn yr Eglwys yng Nghymru, gan y credai y gallai wasanaethu Cymru'n well mewn safle felly, a bu disgwyl unwaith y penodid ef yn esgob. Cyhoeddwyd ei hunan-gofiant, A Celt Looks at the World, yn 1946, ar ôl ei farw; yn y llyfr hwnnw y mae'n siarad yn ddifloesgni am ei ddymuniad a'i siom ynglŷn â'r Eglwys yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.