Bedyddiwyd 7 Mai 1786, yn fab i Ismael Davies a'i wraig Jane (yr oedd Ismael yn fab i Dafydd Jones, Trefriw (1708? - 1785). Wedi marwolaeth Dafydd Jones yn 1785, parhaodd Ismael Davies gyda gwaith argraffu ei dad ym Mryn Pyll, Trefriw. Yn ôl traddodiad y teulu, prentisiwyd John Jones yn of, ond dysgodd grefft argraffydd hefyd, ac o 1810 ymlaen y mae gwelliant amlwg yn safon cynnyrch gwasg Trefriw y gellir ei briodoli i waith John, er na welir ei enw wrth y cynnyrch (heblaw am englynion cyfarch) hyd 1817, pan fu farw Ismael. Priododd Jane Evans yn 1824; yn 1825 symudodd i 29, Station Road, Llanrwst, ac oddi yno yn 1836 i 30, Heol Dinbych. Bu'n cadw siop lyfrau a phapur, a gwneud llawer o fân waith argraffu'r fro. Rywbryd (? cyn 1817) fe adeiladodd dair gwasg argraffu ar batrwm a elwir yn Wasg Ruthven yn ôl enw'r dyfeisiwr cyntaf, Alexander Ruthven, a gwnâi ei holl waith ar y gweisg hyn. Dysgodd hefyd sut i lunio teip argraffu, a defnyddiai lawer o'i lythrennau ei hun weddill ei oes. Dyfeisiodd hefyd, tua diwedd ei oes, beiriant torri papur. Y mae'r peiriant hwn ac esiamplau o'i deip yn Amgueddfa Sain Ffagan, ynghyd â llawer o'r lluniau a ddefnyddiwyd yn y baledi; y mae un o'r gweisg yn Amgueddfa Gwyddoniaeth South Kensington. Yr oedd yn un o'r argraffwyr baledi mwyaf toreithiog, ac un o'i lyfrwerthwyr teithiol oedd Thomas Williams, 'Capelulo'. Gwasg Trefriw/Llanrwst oedd yn gyfrifol am gyfres hir o Almanaciau yn dwyn y teitl 'Y Cyfaill …' Y mae'r argraffnod yn honni eu bod wedi eu hargraffu yn Nulyn, ond ystryw i osgoi'r dreth oedd hynny. Pan ddaeth y dreth i ben yn 1834, argraffwyd yr almanaciau yn agored yn Llanrwst. Argraffodd John Jones waith awduron cyfoes pwysig megis William Williams ('Caledfryn'), Robert Jones, Rhoslan, Ieuan Glan Geirionnydd, John Elias, Gwilym Hiraethog, yn ogystal â chlasuron megis Drych y prif oesoedd, Egluryn ffraethineb a nifer o weithiau Twm o'r Nant. Yr oedd hefyd yn gyfrifol am nifer o gylchgronau a llawer o lyfrynnau od, difyr neu annisgwyl, megis fersiwn o Robinson Crusoe, Hanes Judas Iscariot, Hanes y lleuad, Bywyd Turpin leidr a Faunula Grustensis, yn ogystal â Gwaith Aristotle (a argraffwyd gyntaf oll gan ei frawd Robert (1803 - 1850) yng Nghonwy yn 1826; bu Robert yn argraffu hefyd ym Mhwllheli a Bangor). Cynhyrchodd John Jones y llyfrau lleiaf a wnaed yn Gymraeg erioed, ond ei gampweithiau argraffu oedd Mawl yr Arglwydd John Ellis (1816) a Gronoviana (1860), sef yr argraffiad cyntaf o holl waith Goronwy Owen. Casglwyd y gwaith gan ei fab Edward (1826 - 1892), tad Griffith Hartwell-Jones, awdur Celtic Britain and the Pilgrim Movement (1915). Yr oedd John Jones, a oedd yn gwmnïwr diddan a diwylliedig, yn barddoni dan yr enw 'Pyll'. Wedi ei farwolaeth ar 19 Mawrth 1865, parhaodd ei fab Owen Evans-Jones y fusnes, heb lawer o frwdfrydedd, hyd ei farwolaeth yn 1887. Wedi hynny bu ym meddiant ei ŵyr J. J. Lloyd hyd 1935, pan gaewyd y siop, wedi i'r teulu fod yn argraffwyr tros bum cenhedlaeth o 1776 hyd 1935. Yr oedd Evan Jones (1830 - 1918), ail fab John Jones, yn argraffydd ym Mhorthmadog.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.