WILLIAMS, THOMAS ('Capelulo'; c.1782 - 1855), meddwyn diwygiedig, llyfrwerthwr teithiol, cymeriad

Enw: Thomas Williams
Ffugenw: Capelulo
Dyddiad geni: c.1782
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddwyn diwygiedig, llyfrwerthwr teithiol, cymeriad
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd yn Llanrwst, Dinbych, tuag 1782, yn fab i ffeltiwr a phobwraig. Hanai ei deulu o Gapelulo, Dwygyfylchi, Conwy, a dyna sut y cafodd ei lysenw. Bu'n ostler ac yn yrrwr cerbyd am ychydig cyn mynd yn filwr ac ymladd ar y cyfandir yn rhyfeloedd Napoleon, ac yna dreulio cyfnodau dramor yn ne Affrica, de America a'r India. Achosodd ei wendid at y ddiod lawer o helyntion a thrafferthion iddo yn y fyddin ac ar ôl dychwelyd adref, a bu'n byw ar gardota, difyrru, canu ac adrodd hanes ei droeon trwstan a'i anturiaethau. Os oedd yn feddwyn a phuteiniwr yn byw bywyd ofer, ni ellir amau ei ddawn fel storïwr llafar, a dyna'r hyn a'i nodweddai ar ôl ei dröedigaeth tuag 1840. Bu'n ddirwestwr selog ac yn areithydd peryglus o ddoniol dros yr achos. Tyfodd yn gryn gymeriad, yn enwog am ei ddywediadau bachog, ei ddiniweidrwydd (ymddangosiadol, gan ei fod yn gymysg â thipyn o graffter yn fynych pan geisid ei bryfocio), ei ddoniolwch a'i allu i ddifyrru cynulleidfaoedd o bob math gyda hanesion ei fywyd ofer a diwygiedig.

Ei brif noddwr oedd John Jones yr argraffydd o Lanrwst (1786 - 1865) a fu'n dipyn o gefn iddo ac a'i galluogodd i ennill bywoliaeth trwy werthu caneuon a baledi, almanaciau a llyfrau.

Prif ffynhonnell yr hyn a wyddys am 'Gapelulo' yw ei hunangofiant (Hanes bywyd Thomas Williams, yr hwn a adwaenid wrth yr enw Thomas Capelulo. A ysgrifenwyd o'i enau ef ei hun ) a gyhoeddwyd gan John Jones yn 1854. Fersiwn llenyddol yw hwn o'r hyn a adroddwyd 'o'i enau ei hun' gan yr awdur ac mae'n nodedig am onestrwydd yr hanes cyn ei dröedigaeth fel ar ei hôl. Seiliwyd cofiant Robert Owen Hughes, 'Elfyn', 1907 ar yr hunangofiant ond gan gywain hefyd lawer o'r straeon a oedd yn cylchredeg ar lafar neu a geid yn y cylchgronau a chan lwyddo yn ogystal i gadw blas iaith fywiog 'Capelulo' ei hun. Bu farw yn Llanrwst a'i gladdu yno yn 73 mlwydd oed 14 Chwefror 1855.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.