Ganwyd 6 Chwefror 1801 yn Bryn y Ffynnon, Dinbych, mab hynaf Thomas a Mary Williams - y tad yn wehydd ac yn cadw siop. Addysgwyd ef mewn amryw o ysgolion yn y dref ond oddeutu 1814 dyrysodd amgylchiadau ei dad; gwerthwyd y siop a symudodd y teulu i stryd Henllan lle parhaodd y tad ei waith fel gwehydd. Anfonwyd y mab at ei daid a'i ewythr yn Llanrwst i ddysgu gwaith gwehydd, ac yna dychwelodd i gynorthwyo ei dad. O c. 1820 hyd c. 1826 bu'n cadw ysgol yng nghapel y Methodistiaid yn Ninbych. Yn 1827 ffraeodd â rhai o flaenoriaid y Methodistiaid ac ymaelododd gyda'r Annibynnwyr yn Lôn Swan. Cymhellwyd ef i bregethu gyda hwy a bu am dri mis yng ngholeg Rotherham. Ordeiniwyd ef yn weinidog eglwysi Peniel (Llannerch-y-medd) a Maenaddwyn 2 Mehefin 1829. Yna bu'n weinidog yn Pendref (Caernarfon), 1832-48; Aldersgate Street, Llundain, 1848-50; Llanrwst, 1850-56; Beulah ger Bangor, 1856-7; a Groeswen, o 1857 hyd ei farw 23 Mawrth 1869.
Priododd dair gwaith a ganwyd iddo un mab, William ('ap Caledfryn'), a merch, Margaret Mary.
Urddwyd 'Caledfryn' yn fardd yng Nghaernarfon, Medi 1821, ac enillodd y gadair am ei awdl ar 'Drylliad y Rothesay Castle' yn Biwmares 1832. Cyhoeddodd Cyfarwyddiadur i Ddarllen ac Ysgrifennu Cymraeg, 1821; Grawn Awen, 1826; Drych Barddonol neu Draethawd ar Farddoniaeth, 1839; Grammadeg Cymreig, 1851; a Caniadau Caledfryn, 1856. Golygodd Gardd Eifion , gwaith 'Robert ap Gwilym Ddu' yn 1841 a Eos Gwynedd, gwaith John Thomas, Pentrefoelas, yn 1845, a chasgliad o emynau yn 1860. Cyfrannodd draethodau ar 'Robert ap Gwilym Ddu' a 'Dewi Wyn o Eifion' i'r Traethodydd yn 1852 ac 1853. Golygodd amryw gylchgronau gan gynnwys Y Sylwedydd, 1831; Tywysog Cymru, 1832-3; Y Seren Ogleddol, 1835; Yr Adolygydd, 1839; Cylchgrawn Rhyddid, 1840; a'r Amaethydd, 1852. Bu'n cynorthwyo i olygu Yr Adolygydd, 1850, Y Dysgedydd, Y Gwladgarwr, a'r Gwron. Bu'n feirniad mewn eisteddfodau lawer a chwynid ei fod yn llym iawn; gwrthwynebai lawer o syniadau beirdd ei gyfnod a chymeradwyai gynghanedd ystwyth a naturiol.
Cefnogodd y mudiad Rhyddfrydol ar lwyfan ac mewn pamffledi. Bu'n amlwg yn yr Anti-Corn Law League, y Gymdeithas Heddwch, a Chymdeithas Rhyddhad Crefydd. Gwrthwynebodd Factory Bill Syr James Graham (1843) a rhoddodd dystiolaeth o blaid Anghydffurfwyr gerbron comisiwn addysg 1846. Gwrthwynebodd fudiad y llwyrymwrthodwyr gan gefnogi yn hytrach gymedroldeb. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, ynghyd â pheth o'i weithiau, dan y teitl Cofiant Caledfryn (gol. Scorpion), gan H. Evans yn y Bala, 1877.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.