Mab William Williams, ('Caledfryn'). Ganwyd yn Nghaernarfon, 24 Mawrth 1837, a treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yng Nghymru. Derbyniodd ei wers gyntaf mewn arlunio pan yn chwe mlwydd oed gan yr arlunydd Cymreig Hugh Hughes.
Priododd â Mary Daniel, merch Herbert Daniel, gweinidog yr Annibynwyr yng Nghefn-y-crib, a bu iddynt fab a merch, a'r ddau, fel eu tad, yn ymddiddori mewn cerddoriaeth. Ymysg ei gyfeillion yr oedd Dr. Joseph Parry, T. H. Thomas ('Arlunydd Penygarn'), ac Owen Morgan ('Morien').
Peintiodd amryw o olygfeydd mewn dyfrlliw, ond darluniau olew o drigolion De Cymru yw mwyafrif ei luniau. Y mae amryw ohonynt ar gael yn Ne Cymru a mae dau lun o'i dad i'w cael, y naill yng nghapel y Groeswen ger Caerffili a'r llall yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Bu farw yn y Groeswen (lle y bu ei dad unwaith yn weinidog) yn 1915, a chladdwyd yno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.