ROBERTS, THOMAS (‘Scorpion’; 1816 - 1887), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Thomas Roberts
Ffugenw: Scorpion
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1887
Rhiant: Harri Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Ninbych, bedyddiwyd 25 Awst 1816, mab Harri Roberts, gŵr o hunan-ddiwylliant nodedig a dreuliodd gryn 20 mlynedd yn y fyddin. Prin fu manteision addysg ‘Scorpion’ ar y dechrau; bu mewn ysgol a gedwid gan ‘Caledfryn’ (William Williams) yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, ond casglwn mai ei dad fu ei brif hyfforddwr gan iddo golli ei fam ac yntau'n ddim ond 12 oed. Bu am ysbaid yn brentis o of.

Yn 1837 daeth ‘Gwilym Hiraethog’ (William Rees) yn weinidog eglwys Lôn Swan, Dinbych, a chanfu yn ‘Scorpion’ gymwysterau ar gyfer y weinidogaeth, a'r haf hwnnw dechreuodd ‘Scorpion’ bregethu. Aeth yn 1839 i'w addysgu ar gyfer coleg at y Parch. D. W. Jones, Holywell. Ym mis Rhagfyr 1841, yn niffyg lle iddo yng Ngholeg Aberhonddu, aeth i Lanuwchllyn i ‘ysgol ddarpariadol’ Michael Jones yn un o ddisgyblion cyntaf yr ysgol honno a symudwyd i'r Bala Tachwedd 1842 ac a adnabuwyd yn ddiweddarach fel athrofa'r gogledd. Tua'r Nadolig 1842 troes ei wyneb tuag Aberhonddu, a cherddodd yno'r holl ffordd gefn gaeaf — awgrym o'r dyfalwch a'r dycnwch a'i nodweddai gydol ei oes. Profodd ei hun yn weithiwr caled yn y coleg a daeth yn fuan yn amlwg fel llenor ar bwys ei ysgrifau i'r Dysgedydd a'r Haul (a olygid gan ‘Brutus,’ a roes iddo bob cefnogaeth i ddilorni crach bregethwyr a diaconiaid unbenaethol a elwid gan Brutus yn ‘Jacks’ a ‘Lords’). Dywedir iddo yn y cyfnod hwn ogwyddo i gyfeiriad ymuno â'r Eglwys, a phosibl fod a wnelo'r gyfathrach â ‘Brutus’ â hynny. Dyma'r pryd hefyd y dechreuodd ddefnyddio'r ffugenw ‘Scorpion.’

Yn 1846 derbyniodd alwad i fod yn olynydd i Michael Jones yn eglwys yr ‘Hen Gapel,’ Llanuwchllyn. Cyfnod toreithiog oedd y cyfnod a dreuliodd yno; cadwai yno ysgol ddyddiol yn lle ysgol y Dr. Williams a symudasid i'r Bala gyda Michael Jones, ac âi cyn belled â Rhydymain i gynnal dosbarthiadau llenyddol. Yn Nhachwedd 1848 creodd gyffro mawr drwy'r wlad ben bwy gilydd ag erthygl o'i eiddo yn Y Dysgedydd dan y pennawd, ‘Ocheneidiau'r Weinidogaeth.’ Ymosodwyd yn chwyrn arno ac amddiffynnwyd ef, os yr un, yn fwy chwyrn, gan ei hen gyd-fyfyriwr, ‘Ieuan Gwynedd.’ Fel eraill o arweinwyr Annibyniaeth yn ei gyfnod, yr oedd ‘Scorpion’ yn ‘political dissenter’ hefyd. Bu'n amlwg yn y frwydr yn Llanuwchllyn yn erbyn y dreth Eglwys. Yn 1856 symudodd i Drelawnyd (Newmarket) yn Sir y Fflint, ac yn 1858 i Lanrwst.

Ymddeolodd yn 1881 a bu farw 12 Mehefin 1887, a chladdwyd ef ym mynwent y Santes Fair, Llanrwst.

Cyhoeddodd Esboniad Cyflawn ar y Testament Newydd, Testament Daearyddol, Gwaith Barddonol Ieuan Gwynedd, Cofiant H. Pugh, Mostyn (cydolygydd), Cofiant Caledfryn; a dechreuodd ar gofiant i ‘Gwilym Hiraethog,’ a gwplawyd gan David Roberts (1818 - 1897).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/