ROBERTS, DAVID ('Dewi Ogwen'; 1818 - 1897), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: David Roberts
Ffugenw: Dewi Ogwen
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1897
Rhiant: Dafydd Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 19 Ebrill 1818 ym Mangor, mab y Parch. Dafydd Roberts, pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac arolygwr un o ysgolion Charles o'r Bala; ei fam o linach John Jones, Talsarn, a Cadwaladr Owen, Dolwyddelan. Addysgwyd ef i ddechrau mewn ysgol breifat yn y dref ac wedi hynny yn ysgol y Dr. Arthur Jones. Yn 1833 aeth yn brentis o argraffydd i swyddfa'r papur lleol. Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Lôn Popty (y Tabernacl heddiw) yn 15 oed, ond ymhen dwy neu dair blynedd ymunodd â'r Annibynwyr yn eglwys Ebeneser. Ymddengys mai penbleth ynglŷn â phynciau athrawiaethol a barodd iddo gymryd y cam hwn, a hynny ar ôl darllen gwaith Samuel Bowen ar yr Iawn, yn ogystal a dylanwad personol y Dr. Arthur Jones. Aeth ar daith gyda ' Ieuan o Lŷn,' athro yn ysgol y Dr. Arthur Jones ar y pryd, ac ar y daith honno y dechreuodd bregethu, yn Nolwyddelan. Derbyniodd alwad i Seion a Seilo, Môn, ac urddwyd ef yno 7 Mai 1839. Yn 1842 symudodd i'r Tabernacl, Gartside Street, Manceinion ond yn 1845 dychwelodd i Fôn yn weinidog Cemaes a Seion. Yn 1850 ymsefydlodd ym Mhendref Caernarfon, yn olynydd i 'Caledfryn.' Yno daeth i'w ran anhwyldeb poenus a gorfu iddo fyned dan driniaeth i'w wyneb a gwisgo plât aur dan ei rudd weddill ei oes. Yn 1871 symudodd i eglwys Queen Street, Wrecsam, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, 5 Medi 1897. Claddwyd ef ym mynwent gyhoeddus Wrecsam.

Daethai yn gynnar yn bregethwr hynod boblogaidd ar gyfrif melystra ei ddawn a hawddgarwch ei bersonoliaeth, a chadwodd ei safle i'r diwedd. Yn ei ddydd yr oedd yn gryn lenor a bardd; cipiodd rai gwobrau ac urddwyd ef yn fardd yn eisteddfod Caernarfon 1862 dan yr enw ' Dewi Ogwen.' Ceir emynau o'i waith yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd, ac yr oedd yn un o olygyddion yr hen Ganiedydd. Yn 1863 cyhoeddodd fisolyn o'r enw Yr Ardd, a barhaodd i gylchredeg hyd 1869, a chyfieithodd waith H. B. Stowe dan y teitl Caban F'ewythr Tomos, 1862. Ef hefyd, oherwydd marw ei gyd-olygdd ' Scorpion,' a ysgrifennodd y rhan fwyaf o gofiant Hiraethog. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o bregethau Cymraeg, ac un Saesneg a gyflwynodd i'r frenhines Victoria, drwy ganiatâd. Ef oedd ysgrifennydd Coleg y Bala yn adeg cythrwfl y cyfansoddiadau, 1876-9. Etholwyd ef yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1880.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.