JONES, JOHN (1796 - 1857), pregethwr amlwg a grymus neilltuol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1796
Dyddiad marw: 1857
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr amlwg a grymus neilltuol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gwilym Arthur Edwards

Ganwyd 1 Mawrth 1796, yn Nhanycastell, Dolwyddelan, yn fab i John ac Elen Jones, a brawd David Jones, Treborth. Collodd ei dad pan yn 12 oed. Dylanwadodd diwygiad Beddgelert (1819) arno ac ymunodd â chrefyddwyr yn Llangernyw; bu'n gweithio ar y ffordd fawr rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen ac wedyn mewn chwarel yn Nhrefriw. Dechreuodd bregethu yn 1821; ni bu mewn ysgol o gwbl, eithr cafodd ychydig hyfforddiant gan Evan Evans ('Ieuan Glan Geirionnydd') yn Nhrefriw. Yn 1822 derbyniwyd ef yn aelod o gyfarfod misol Sir Feirionnydd yn y Bala. Yn 1823 aeth i weithio yn chwarel Talysarn a Llanllyfni, ac yn 27 oed priododd Fanny Edwards; yn 1824 gadawodd y chwarel am siop ei briod. Cyn diwedd ei oes, 1850-2, prynodd gydag eraill chwarel Dorothea yn ardal Talysarn. Yn 1824 derbyniwyd ef yn aelod o'r gymdeithasfa a'i ordeinio yn 1829, a bu ar y maes am 28 mlynedd wedyn ymhlith y grymusaf o bregethwyr a gafodd Cymru erioed. Dywedir iddo gychwyn dull newydd o bregethu gyda phwyslais arbennig ar yr ymarferol yn hytrach na'r athrawiaethol, a nodwedd arbennig ei bregethu oedd nerth - nerth meddwl, nerth ymadrodd, nerth argyhoeddiad ac ymgysegriad. Er na chafodd ddiwrnod o ysgol casglodd lawer iawn o wybodaeth; yr oedd yn gerddor rhagorol ac yr oedd ei lais gwych a'i gorff lluniaidd yn help mawr iddo yn ei weinidogaeth. Bu farw 16 Awst 1857; claddwyd yn Llanllyfni - y mae colofn ar ei fedd.

Gweler hefyd yr erthygl am ei hen nain Angharad James.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.