JONES, DAVID (1805 - 1868), Treborth, Sir Gaernarfon, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1805
Dyddiad marw: 1868
Priod: Jones
Rhiant: Elen Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Thomas

Ganwyd 2 Mehefin 1805 yn Nolwyddelan, yn frawd i John Jones ('Talysarn'). Cyn dechrau pregethu yn y flwyddyn 1826 ni chawsai gyfle addysg ond yr ysgol Sul. Ar ôl hynny aeth i ysgol John Hughes yn Wrecsam. Wedi ei ddyfod i fyw i Gaernarfon yn 1832 priododd wraig weddw, sef Mrs. Owen, Siop-y-pendist. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1834 a gwasnaethodd eglwys Moriah yn ogystal ag eglwysi eraill yn y dref (1832-58). O 1858 hyd 1867 preswyliai yn Nhreborth. Bu farw yn Llanfairfechan wedi ychydig fisoedd o aros yno, ar 23 Mehefin 1868.

Perthynai iddo urddas a lledneisrwydd bonheddig, ac fel pregethwr fe'i rhestrid yn y dosbarth cyntaf oblegid ei ddawn gyfoethog a melys. Nid oedd ei weinidogaeth mor hyrddiol a'r eiddo ei frawd, ond dywedir bod ei bregethu yn fwy gwastad a'i genadwri liwgar yn effeithiol i ennill. Ceir llawer o'i gynhyrchion mewn rhyddiaith a barddoniaeth, yn bennaf yn Y Drysorfa a'r Traethodydd. Ei waith pennaf mewn rhyddiaith oedd Perffaith Gyfraith Rhyddid, ac, mewn barddoniaeth, Dyn, yn ei Greadigaeth, ei Ddirywiad, a'i Adferiad yn y dyn Crist Iesu. Canodd gryn lawer ar destunau ysgrythurol, ac y mae amryw o'i emynau yn dra hysbys. Yn y flwyddyn 1876 cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.