JONES, MICHAEL (1787 - 1853), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro cyntaf Coleg Annibynnol y Bala

Enw: Michael Jones
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1853
Plentyn: Michael Daniel Jones
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: Daniel Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro cyntaf Coleg Annibynnol y Bala
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 1787 yn Neuaddlwyd, Sir Aberteifi; symudodd y teulu i dyddyn bychan o'r enw Ffosybontbren. Yn ddiweddar ar eu hoes y cysylltodd ei rieni eu hunain â chrefydd; gyda'r Wesleaid yng Nghapel y Ficer, yr oedd ei dad, Daniel Jones, gŵr o Lanbydder, yn aelod pan fu farw, a'i fam, Mary Jones, gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ffos-y-ffin. Cychwynnodd ei yrfa yn was fferm, yna troes i fod yn saer maen. Drwy gymorth ei frawd Evan, aeth am dymor i ysgol ac yn fuan wedyn aeth i Lanbedr Pont Steffan a dysgodd yno y grefft o rwymo llyfrau. Yn 1807 derbyniwyd ef yn aelod yn y Neuaddlwyd gan y Dr. Phillips, ac ef a'i hanogodd i ddechrau pregethu. Aeth i ysgol Davis Castell Hywel a gweithiai ysbeidiau er ei gynnal ei hun, a bu ar un adeg yn cadw ysgol yn y Neuaddlwyd. Ymhen rhyw ddwy flynedd derbyniwyd ef i athrofa Wrecsam gyda'r Dr. Jenkin Lewis yn athro i ddechrau a'r Dr. George Lewis yn ddiweddarach. Urddwyd ef yn 1814 yn olynydd i'r Dr. George Lewis yn Llanuwchllyn.

Yr adeg hon yr oedd Ymneilltuwyr Cymru o bob enwad yn ferw o ddadleuon diwinyddol, ac nid hir y bu cyn i weinidogaeth Michael Jones brofi'n faes un o'r dadleuon ffyrnicaf, dadl a ddaeth i'w hadnabod fel ' Dadl y Systemau.' Er dyddiau'r Dr. George Lewis, 'system' Bresbyteraidd neu Henaduriaethol oedd y drefn yn yr Hen Gapel; ac ynglŷn â hyn y cododd yr helynt flin. Yn gymhleth â hi yr oedd hefyd bynciau athrawiaethol fel uchel-Galfiniaeth ac Arminiaeth. Rhwygwyd yr eglwys yn ddwyblaid, sef plaid Michael Jones a phlaid yr Hen Bobl. Cyhuddid ef o anwybyddu'r egwyddor o Henaduriaeth yn llywodraeth yr eglwys a'i fod yn Armin, yn gwadu'r Pechod Gwreiddiol, yn ymddiried yng Ngallu Dyn ac yn haeru Cyffredinolrwydd y Prynedigaeth.

Ar 11 Tachwedd 1821 ciliodd yr Hen Bobl o'r eglwys; galwyd gweinidogion i geisio cymodi ond methwyd, ac yn y diwedd aed i gyfraith am feddiant o'r capel, a'r Hen Bobl a orfu. Bu Michael Jones a'i blaid allan o'r Hen Gapel am yn agos 10 mlynedd, gan addoli yn ei gartref yn y Weirglodd Wen lle y symudasai o dŷ'r Hen Gapel. Yn 1839 unodd y ddwyblaid â'i gilydd ac aethpwyd yn ôl i'r capel.

Symudodd Michael Jones i'r Bala yn 1842 i ofalu am ysgol newydd a ddaeth i'w hadnabod fel Athrofa'r Annibynwyr ar gyfer addysgu dynion ifanc i'r weinidogaeth. Cychwynasid hi i ddechrau yn Llanuwchllyn yn 1841 yn y Weirglodd Wen, lle hefyd y cynhaliai ef un o ysgolion y Dr. Daniel Williams.

Bu farw 27 Hydref 1853 a chladdwyd ef yn Rhosyfedwen, mynwent yr Hen Gapel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.