Ganwyd yn 1763 yn Coed yn ymyl Trelech, Sir Gaerfyrddin. Ymaelododd yng Nghapel y Graig, Trelech. Bu am dymor yn ysgol John Griffiths, Glandŵr, ac yn ddiweddarach yn ysgol David Davis, Castell Hywel. Derbyniwyd ef, yn 18 oed, i'r academi yng Nghaerfyrddin. Y prifathro ar y pryd oedd Robert Gentleman. Wedi cwrs o dair blynedd yn yr academi derbyniodd alwad oddi wrth yr eglwys Annibynnol yng Nghaernarfon, a gweinidogaethodd yn llwyddiannus yn y cylch hwn am naw mlynedd. Cyn iddo symud o'r ardal daeth i'w feddwl i ymfudo i America. Bu gohebiaeth rhyngddo a'r Dr. Edward Williams, gweinidog Carr's Lane, Birmingham, ar y pryd, ond daeth hefyd alwad o'r eglwys Annibynnol yn Llanuwchllyn, a phenderfynodd aros yng Nghymru. Bu yn y maes hwn am 18 mlynedd yn weinidog ac yn arolygwr ar nifer o ysgolion teithiol yng Ngogledd Cymru. Bu llwyddiant mawr i'w waith deublyg. Gwnaeth argraff annileadwy ar fywyd yr ardal.
Yn 1812 symudodd Jenkin Lewis, llywydd yr academi Annibynnol yn Wrecsam, i Fanceinion, fel pennaeth ar academi gyffelyb, a gwahoddwyd George Lewis gan y Bwrdd Cynulleidfaol yn Llundain i gymryd gofal yr athrofa yn Wrecsam. Cafodd ddwy alwad, o Lerpwl ac o Lanfyllin, yn 1815. Ni fynnai'r Bwrdd iddo symud yr athrofa o Gymru, ond nid oedd wrthwynebiad iddo symud o Wrecsam i Lanfyllin (1815-21). Symudodd drachefn i'r Drefnewydd (1821), ond ymhen hanner blwyddyn bu farw yno, 5 Mehefin 1822.
Fel esboniwr Ysgrythurol a diwinydd, safai George Lewis o'i ysgwyddau yn uwch na neb arall o'i gyfoeswyr. Yr oedd ei lyfrau a'i bamffledau yn ffrwyth astudiaeth fanwl o'r Beibl. Am gytbwysedd barn ac ymresymiad pwyllog safai ar ei ben ei hun. Ni welir yn ei lyfrau ddim o'r ormodiaith a oedd yn nodweddiadol o erthyglau dadleuol y cyfnod. Cyhoeddodd lu o bamffledau gwerthfawr ar bynciau diwinyddol a nifer o lyfrau bychain mewn geiriau syml, ac emynau unsill, at wasanaeth ysgolion Sul ac ysgolion eraill. Bwriadodd gyhoeddi ' Esboniad ar y Testament Newydd,' ond ni orffennodd y gwaith. Cyhoeddodd y tair gyfrol gyntaf pan oedd yn weinidog yn Llanuwchllyn (1802), a'r bedwaredd pan oedd yn llywydd yr academi yn Wrecsam (1815). Cyhoeddwyd y gweddill - sef tair cyfrol - ar ôl ei farwolaeth gan Edward Davies, ei gyd-athro a'i fab-yng-nghyfraith; mwy na thebyg mai Edward Davies a ysgrifennodd yr esboniad ar Lyfr Datguddiad yn llwyr. Ond prif waith George Lewis oedd Drych Ysgrythyrol neu Gorph o ddifinyddiaeth yn cynnwys eglurhad a phrawf o amrywiol ganghennau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, 1796. Esboniwr beiblaidd, diwinydd, ac athro oedd George Lewis. Nid oedd fel pregethwr yn yr un dosbarth â John Elias a Christmas Evans a Williams o'r Wern. Ni feddai huodledd y cyntaf na dychymyg yr ail na chyfaredd yr olaf. Ond bu'r Drych Ysgrythyol yn werslyfr mewn colegau diwinyddol hyd ddiwedd y 19eg ganrif.
Roedd
yn ŵyr iddo, mab i'w fab ieuengaf, William Jones Lewis, meddyg (gweler D.N.B.).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.