Ganwyd yn Cwm-hyswn-ganol, plwyf Llanfachreth, Sir Feirionnydd, yn 1781 (bedyddiwyd ef 18 Tachwedd 1781 yn eglwys Llanfachreth); ei fam yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ond nid ymddengys fod ei dad William Probert, saer coed a thyddynnwr, yn aelod eglwysig er ei fod yn ŵr bucheddol. William oedd y chweched o saith o blant; câi'r enw o fod yn llanc mwy nwyfus a direidus na'r rhelyw o blant y fro. Yn 13 oed aeth i oedfa i ffermdy Bedd y Coedwr i wrando Rhys Dafis y Glun Bren, a dwysbigwyd ef dan ei weinidogaeth ac o'r dwthwn hwnnw dechreuodd ymddiddori mewn materion crefyddol. I gapel Pen y Stryd yr âi, lle'r oedd achos Annibynnol a gychwynnwyd gan eglwys yr Hen Gapel, Llanuwchllyn; derbyniwyd ef yn aelod ac yntau ond 15 oed, peth anghyffredin bryd hynny. Bu'n gweithio wrth grefft ei dad fel saer coed am gyfnod. Dechreuodd bregethu cyn bod yn 19 oed a bu wrthi ysbaid dwy flynedd a châi beth hyfforddiant addysgol gan ei weinidog, y Parch. William Jones; ef a'i dysgodd i sgrifennu. Yna aeth i ysgol i Aberhafesb ger y Drenewydd am wyth neu naw mis. Yn 1803 derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Wrecsam. Ar gyfrif ei ddiffyg paratoad, yn enwedig mewn Saesneg, ychydig gynnydd a wnaeth yno ac y mae traddodiad iddo mewn direidi sicrhau ei athro Jenkin Lewis nad aethai neb o'r coleg mor onest ag yr aethai ef. Er hynny, ar bwys ei ddawn pregethu yr oedd mwy nag un eglwys am ei alw'n weinidog, a dewisodd yntau eglwysi y Wern a Harwd ger Wrecsam; urddwyd ef yno 28 Hydref 1808. Ymdaflodd â'i holl egni i'w waith; sefydlodd achosion yn y cylch, yn Rhosllannerchrugog, Rhiwabon, a Llangollen. Dechreuodd ei glod fel pregethwr ymledu drwy Ogledd a De a daeth yn ŵr blaenllaw yn enwad. Yr oedd yn un o hyrwyddwyr mudiad yn 1834 a elwid ' Undeb Cyffredinol ' â'i amcan i ddi-ddyledu capeli. Yn 1836 symudodd i'r Tabernacl, Great Crosshall Street, Lerpwl, ond daeth i'w ran helbulon afiechyd teuluaidd a dechreuodd ei iechyd yntau ddadfeilio. Dychwelodd i'r Wern 20 Hydref 1839 ac yno y bu farw 17 Mawrth, 1840 a chladdwyd ef ym mynwent y Wern. Yn gynnar ar ei oes troesai o fod yn uchel-Galfin at Galfiniaeth gymedrol gan ddilyn John Roberts, Llanbrynmair, ac eraill o'r Annibynwyr, a cheir ganddo erthygl yn y 'Llyfr Glas' a gyhoeddwyd gan y gŵr hwnnw ac a greodd gryn gythrwfl ar y pryd. Pregethwr oedd ef yn anad dim arall ac fel pregethwr yr enillodd le mor amlwg ym mywyd Cymru. Cysylltir ei enw â John Elias a Christmas Evans fel un o 'dri chedyrn' y pulpud Cymraeg. Daeth ag arddull newydd i bregethu ei enwad (a adnabyddid fel 'y Sentars Sychion') a adawodd ddylanwad parhaol ar ei bulpud. Meddai bersonoliaeth swynol, â rhywbeth anghyffredin yn edrychiad ei lygad. Nodweddid ei bregethu gan eglurder, ffresni, ac addasrwydd ei gymariaethau a'i eglurebau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.