Ganwyd yn y Brithdir Uchaf, Gelligaer, 12 Awst 1760, yn fab i Malachi a Cecilia Lewis, aelodau yn nhŷ cwrdd Arminaidd Cefn-coed-cymer dan Philip Charles. O ysgol ramadeg ym Merthyr Tydfil, anfonwyd ef yn 17 oed i academi'r Fenni, yn ddisgybl lleyg. Yno, newidiodd ei olygiadau diwinyddol, ac yn 1778 derbyniodd y Bwrdd Cynulleidfaol ef yn ymgeisydd am y weinidogaeth; cyn diwedd ei dymor yn y Fenni, yr oedd yn gweithredu fel cynorthwywr i'r athro, Benjamin Davies. Symudodd gyda'r academi (1782) i Groesoswallt, i gynorthwyo'r Dr. Edward Williams, ond ym mis Tachwedd 1784 urddwyd ef yn weinidog yn Wrecsam. Pan ymadawodd Edward Williams o Groesoswallt (1791), pwyswyd ar Lewis i gymryd ei le, a chan na fynnai ef ymado â Wrecsam, symudwyd yr academi i'r dref honno (1792). Yn 1811, gwahoddwyd ef i gychwyn academi ym Manceinion, a chydsyniodd, ond methiant fu'r academi hon, a bu yntau heb swydd wedyn am beth amser. Ddechrau 1815, cymerodd ofalaeth eglwys 'Hope,' Casnewydd. Bu farw yng Nghasnewydd 11 Awst 1831.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.