CHARLES, PHILIP (1721? - 1790), gweinidog Presbyteraidd

Enw: Philip Charles
Dyddiad geni: 1721?
Dyddiad marw: 1790
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ychydig a wyddys amdano; gan ei fod yn nai i Philip David, odid nad dyn o sir Fynwy oedd.Ymddengys yr enw ar restr academi Caerfyrddin yn 1745. Yn 1749, dilynodd Richard Rees yn weinidog cynulleidfa Cefn-coed-cymer, a oedd newydd ei chorffori - cangen o Gwm-y-glo. Armin oedd Philip Charles, a thebyg iddo wedyn ddatblygu'n Ariad. Bu farw 19 Mai 1790. Y mae amryw gyfeiriadau ato yn nyddiaduron ei ewythr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.