Ganwyd 11 Mehefin 1709, yng Nghwm Ebwy Fawr. Tueddwyd ef at grefydd tua 1720 gan bregethu James Davies o Ferthyr Tydfil; dechreuodd bregethu ei hunan yn 1732; ac yn 1739 urddwyd ef yn weinidog cynorthwyol i David Williams (a fu yno o 1710 hyd ei farwolaeth yn 1759) ym Mhenmain. Bu yno hyd ei farwolaeth 3 Chwefror 1787. Tua 100 oedd rhif yr eglwys ar hyd ei weinidogaeth. Gŵr ceidwadol a chrabet oedd Philip David, ac y mae ei ddyddiaduron (anghyhoedd) yn ddrych hynod ddiddorol o ragfarn hen 'Sentar sych' yn erbyn y dulliau Methodistaidd a oedd yn ennill y dydd ymysg yr Annibynwyr Cymreig erbyn diwedd ei ddyddiau ef. Nai iddo ef oedd Philip Charles o Gefn-coed-cymer.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.