Ganwyd 13 Mawrth 1796 yn Ashton (Sir Amwythig), ond magwyd yn Wrecsam a bu mewn ysgol ramadeg yng Nghaer; cafodd ffafr yng ngolwg William Williams o'r Wern (1781 - 1840), a'i hanogodd i bregethu. Aeth i academi Llanfyllin, ar y pryd dan George Lewis (1763 - 1822), yn 1817; yn 1818 penodwyd ef yn ddisgybl-athro, ac yn 1819 yn athro'r clasuron; daeth Sara, merch George Lewis yn wraig iddo. Yn 1821 symudwyd yr academi i'r Drenewydd, lle y bu Lewis farw yn 1822. Ystyrid Davies yn rhy ifanc i fod yn brifathro, ond penodwyd ef yn athro diwinyddol, gyda Samuel Bowen yn gydradd. Ymadawodd Bowen yn 1830, a daliodd Davies ymlaen, ar ei ben ei hun ac yn wyneb anawsterau dirfawr, hyd 1839, pan symudwyd yr academi, dan yr enw newydd 'Y Coleg Annibynnol,' i Aberhonddu; eto i gyd ni chodwyd mohono'n brifathro. Bu farw 25 Chwefror 1857. Yr oedd yn geidwadwr rhonc, nid yn unig mewn diwinyddiaeth ond mewn gwleidyddiaeth hefyd. Disgrifir ef fel pregethwr symol, ond fel athro rhagorol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.