Ganwyd yn Bwlchmaenmelyn, amaethdy ym mhlwyf Cerrigydrudion, sir Ddinbych. Priododd ferch y Cernioge Mawr yn 1765. Ymsefydlodd ym Mhentrefoelas gan gadw masnachdy ac amaethu. Bu ymryson prydyddu rhyngddo a Thomas Edwards ('Twm o'r Nant') ynglŷn â chwestiwn bedydd. Yn 1817 cyhoeddodd Annerch Plant a Rhieni oddi ar farwolaeth William Thomas mab Lewis Thomas, Llanrwst; yn 1845 cyhoeddwyd casgliad o'i waith o dan y teitl Eos Gwynedd dan olygiaeth William Williams ('Gwilym Caledfryn'). Cyfansoddodd emynau, e.e. ' Pwy welaf fel f'anwylyd, yn hyfryd ac yn hardd,' a charolau. Bu farw 12 Medi 1818.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.