EDWARDS, THOMAS ('Twm o'r Nant'; 1739 - 1810), bardd ac anterliwtiwr

Enw: Thomas Edwards
Ffugenw: Twm O'r Nant
Dyddiad geni: 1739
Dyddiad marw: 1810
Priod: Elizabeth Edwards (née Hughes)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac anterliwtiwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd ym Mhenparchell Isaf, plwyf Llanefydd, sir Ddinbych. Symudodd ei rieni, pan oedd ef yn ifanc, i'r Nant, ger Nantglyn. Dysgodd ddarllen pan ddaeth un o ysgolion Griffith Jones i'r ardal, a chafodd bythefnos o ysgol yn nhref Dinbych. Dywed yn ei hunan-gofiant iddo ysgrifennu cerddi a dwy anterliwt cyn bod yn 9 oed, a dechrau chwarae mewn anterliwtiau yn 12 oed. Priododd, 1763, Elizabeth Hughes o Bont-y-garreg, Llanfair Talhaearn, ac 'Ieuan Fardd' yn gweinyddu. Aeth i fyw i Ddinbych, a'i waith oedd cario coed gyda wagen a cheffylau. Oherwydd anffodion aeth yn ddwfn i ddyled, a gorfu iddo droi at ysgrifennu a chanlyn anterliwtiau am gyfnod. Ond gwellodd pethau, a bu'n cario coed am ysbaid wedyn yn sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn. Oherwydd iddo fynd yn feichiau dros ewythr iddo ac i hwnnw dorri, gorfu i Twm ffoi i'r De o afael y gyfraith, a bu'n cario coed yn Abermarles ac amryw leoedd eraill, ac yn cadw tyrpeg, ac yn ddiweddarach yn cadw tafarn yn Llandeilo, a chario coed ar yr un pryd. Yn 1786 dychwelodd i'r Gogledd, a bu'n canlyn anterliwtiau am ysbaid. Aeth i fyw i Ddinbych eilwaith, a bu'n gweithio fel saer maen am weddill ei oes. Bu am ychydig, yn 1808, yn gweithio i W. A. Maddocks ar fôrglawdd Porthmadog. Bu farw 3 Ebrill 1810. Claddwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, Dinbych.

Arfer Twm oedd cyhoeddi ei anterliwtiau ar ôl eu hactio am ysbaid, ac ymddangosodd amryw ohonynt yn bamffledi yn ystod ei oes. Y mae'r rhai a ysgrifennodd yn ei ieuenctid wedi mynd ar goll, ond erys Tri Chydymaith Dyn , Cyfoeth a Thlodi , Cain ac Abel, Pleser a Gofid , Tri Chryfion Byd , Pedair Colofn Gwladwriaeth , Cybydd-dod ac Oferedd, Y Farddoneg Fabilonaidd . Ceir yn yr anterliwtiau hyn gryn dipyn o feirniadaeth ar arferion cymdeithasol yr oes. Yr oedd Twm yn ŵr ffraeth, ac yn fydryddwr llithrig yn y dull lled-gynganeddol a ddaethai'n draddodiadol erbyn hynny. Y ddwy ddawn hyn sy'n cyfrif am lawer ergyd gyrhaeddgar yn ei weithiau, ac yn cyfrif hefyd fod llawer darn o'i waith wedi byw ar lafar. (Fe gofir fel y byddai Mari Lewis yn dyfynnu Tomos o'r Nant.) Cyhoeddodd gasgliad o'i farddoniaeth o dan y teitl Gardd o Gerddi yn 1790, a'i argraffu yn Nhrefeca. Yr oedd wedi darllen llawer ar weithiau'r beirdd clasurol, ac oherwydd hynny fe welir rhai trawiadau go fedrus yn ei gywyddau. Casglodd nifer o hen lawysgrifau, a gwerthodd hwy cyn diwedd ei oes i William Owen-Pughe. Y maent yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Yr oedd Twm o'r Nant yn gystadleuydd amlwg yn yr eisteddfodau cyntaf a gynhaliwyd o dan nawdd Cymdeithas y Gwyneddigion. Yng Nghorwen ym Mai 1789 methodd y beirniaid benderfynu rhwng ei waith ef ac eiddo Jonathan Hughes a 'Gwallter Mechain', a gofynnwyd i'r Gwyneddigion dorri'r ddadl. Barnasant hwy Walter yn orau, ond yr oedd David Samwel yn pleidio Twm ac anfonodd ysgrifbin arian iddo yn wobr gysur. Colli a wnaeth Twm hefyd yn eisteddfod y Bala yn mis Medi y flwyddyn honno, ond bu'n chwarae anterliwt yn y dref am rai dyddiau ar ôl yr eisteddfod. Enillodd am gyfansoddi'n fyrfyfyr yn Llanelwy yn 1790. Cystadlodd yn Ninbych yn 1792 ac yng Nghaerwys yn 1798, ond nid enillodd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.