HUGHES, JONATHAN (1721 - 1805), bardd

Enw: Jonathan Hughes
Dyddiad geni: 1721
Dyddiad marw: 1805
Plentyn: Jonathan Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 17 Mawrth 1721 yn Pengwern ger Llangollen. Dywedir iddo ddechrau prydyddu yn 15 oed, a chynhyrchodd swm enfawr o farddoniaeth yn y dull a oedd yn gyffredin yn y 18fed ganrif, sef cerddi cynganeddol i'w canu ar alawon adnabyddus y dydd. Ceir carolau plygain a phethau eraill o'i waith yn almanaciau ‘Philomath,’ Cain Jones, ac eraill yn gyson o tua 1755 hyd ddiwedd y ganrif. Cyfansoddai hefyd ar y mesurau caeth traddodiadol; ysgrifennodd awdl goffa i Richard Morris yn 1780. Ysgrifennodd o leiaf un anterliwt, Y Dywysoges Genefetha, 1744. Cyhoeddodd gyfrol o'i waith yn 1778 o dan y teitl, Bardd a Byrddau. Yr oedd yn un o eisteddfodwyr mwyaf selog y 18fed ganrif. Yr oedd yn yr eisteddfod beirdd a gynhaliwyd yn Selatyn yn 1748. Yn naturiol yr oedd yn bur amlwg yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen yn Ionawr 1789, ac yn eisteddfod Corwen ym Mai y flwyddyn honno ef oedd un o'r tri (‘Twm o'r Nant’ a ‘Gwallter Mechain’ oedd y lleill) y methwyd penderfynu rhyngddynt, a gorfod gyrru eu gwaith i Lundain i'w feirniadu gan y Gwyneddigion. Yr oedd hefyd yn eisteddfod y Bala ym Medi 1789. Ond ni bu llawer o lwyddiant ar ei gynigion fel bardd eisteddfod; canu carolaidd y 18fed ganrif oedd ei ddifyrrwch, ac â'r math hwnnw o farddoniaeth yr ymddifyrrodd fwyaf o lawer. Bu farw 25 Tachwedd 1805. Yr oedd ei fab, o'r un enw (1753 - 1834?), yntau'n brydydd, a chyhoeddodd Gemwaith Awen, Gwaith Beirdd Collen, yn 1806. Ei waith ef ei hun oedd y rhan fwyaf o gynnwys y gyfrol. Yr oedd mab iddo yntau, Jonathan Hughes arall eto (1797 - 1860?), ymysg y beirdd mewn eisteddfod yn Llangollen yn 1833.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/