JONES, CAIN (fl.1775-95), almanaciwr

Enw: Cain Jones
Plentyn: John Cain Jones
Rhiant: John Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: almanaciwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Evan David Jones

Mab John Edwards ('Sion y Potiau'). Ni wyddys ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ei frawd Abel, a fu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Merthyr Tydfil, yn Llansantffraid Glyn Ceiriog, 21 Rhagfyr 1740, a theg yw casglu fod Cain yn hŷn nag Abel. Ar farwolaeth Gwilym Howel, yn 1775, ymgymerodd â golygu'r almanac Tymmhorol, ac wybrennol Newyddion. Bu'n gyfrifol am 20 rhifyn a gyhoeddwyd gan Eddowes yn Amwythig, ac eithrio'r olaf yn unig, sef rhifyn 1795, a gyhoeddwyd gan J. Marsh yng Ngwrecsam. Nid oes gofnod am almanac diweddarach ganddo. Yr oedd yn ymhel rhyw gymaint â barddoniaeth, a cheir marwnad o'i waith yn almanac 1783.

Mab iddo oedd JOHN CAIN JONES (bu farw 1826?), a ysgrifennai dan yr enw 'Siôn Ceiriog.' Ceir llythyrau gan John Cain Jones yn NLW MS 1891E , penillion ar donau 'Y Mynach Du' a 'Gwel yr Adeilad' yn NLW MS 1817E , salmdonau yn NLW MS 1932E , 'Cerdd hanes rhyw gidwm gwaedlyd o'r Cymdu' yn NLW MS 6729B , a 'Cerdd annerch Mr. Edward Bennion, physygwr,' yn NLW MS 12868B . Dywedir iddo farw yn 1826, a bod ganddo ferch, Leah Evans, yn brydyddes awenyddol yng Nglyn Ceiriog.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.